Hafan > Digwyddiadau > Cyfnewid gyda'n Tref Gyfeilliol 2024

Rydym yn chwilio am deuluoedd i groesawu ein hymwelwyr.

Bydd grŵp o dref gefeilliol Llandudno, Wormhout yng Ngogledd Ffrainc, yn ymweld â Llandudno yn ystod penwythnos Ebrill y 26ain hyd at Ebrill y 29ain 2024.

Mae’r Cyngor Tref yn chwilio am bobl i groesawu aelodau o griw Wormhout yn ystod eu hymweliad. Caiff y gwesteiwyr eu gwahodd i ymweld â Wormhout ym mis Gorffennaf yn eu tro.

Os yw hyn o ddiddordeb, ac am ragor o fanylion, cysylltwch â Dirprwy Glerc y Dref drwy e-bost:

deputyclerk@llandudno.gov.uk neu ffoniwch 01492 879130


Digwyddiadau