Hafan > Digwyddiadau > Gefeillio

Mae Llandudno wedi’i gefeillio gyda thref Wormhout yng Ngogledd Ffrainc ers 1988. Sefydlwyd y Gefeillio rhwng y ddwy dref er mwyn sicrhau nad ydy’r digwyddiadau ym 1940 cyn Gwacâd Dunkirk yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn mynd yn angof. Yn ystod y digwyddiad hwnnw, fe gipiodd Milwyr SS Yr Almaen hyd at 100 o filwyr Prydeinig gan gynnwys dynion o Landudno. Cafodd y milwyr Prydeinig eu cludo i ysgubor yn La Plaine au Bois ger trefi Wormhout a Esquelbecq, lle lladdwyd 80 ohonyn nhw ar Fai’r 28ain 1940.

Heddiw fe gaiff safle’r lladdfa ei gynnal a’i gadw fel cofeb am y rheiny a laddwyd. Mae Cyngor Tref Llandudno yn cyfrannu tuag at gostau cynnal a chadw’r safle.

Mae’r Cyngor Tref yn cefnogi ac yn trefnu ymweliadau diwylliannol rhwng Llandudno a Wormhout pob blwyddyn er mwyn cynnig cyfle i aelodau’r cyhoedd sydd â diddordeb i feithrin cyfeillgarwch gydag ein cymheiriaid Ffrengig. Fel rhan o’r ymweliadau i Wormhout o Landudno, bydd cyfle i wrando ar wasanaeth yn y safle coffa er mwyn i’r ymwelwyr dalu teyrnged.

  • Maer Wormhout, Frédéric Devos a Mr Roland Fiers, Cadeirydd pwyllgor Gefeillio Trefi, Wormhout yn gosod torch ar gofeb ryfel Llandudno

Taith Bêl-droed Wormhout

Fel arfer ym mis Mai bob blwyddyn, caiff tîm o 20 disgybl o ysgolion cynradd lleol, ynghyd â’u hathrawon, eu gwahodd i gystadlu yn Nhwrnamaint Pêl-droed Rhyngwladol Iau Wormhout. Yn ogystal â chymryd rhan yn y twrnamaint, mae’r disgyblion yn gallu ymdrochi yn hanes y dref a’r ardaloedd cyfagos.

  • Llandudno yn cymryd rhan yn nhwrnamaint pêl-droed 2023.

Roedd ymweliad eleni yn cyd-daro â phen-blwydd lladdfa Wormhout ar yr 28ain o Fai, a bu i’r grŵp gymryd rhan mewn digwyddiadau coffa yn ystod yr ymweliad. Bu gwasanaeth coffa hefyd yn Llandudno ar yr 28ain o Fai gyda theuluoedd y rhai fu golli eu bywydau yn y lladdfa yn mynychu’r gwasanaeth.

  • Maer Llandudno, Cyng Greg J T Robbins yn gosod torch yn ystod y gwasanaeth coffa yn Llandudno

Ymweliad i Wormhout ym mis Gorffennaf

Bob mis Gorffennaf, caiff ymweliad i Wormhout ei drefnu i gyd-daro â charnifal a gŵyl gerddoriaeth Wormhout, gyda grŵp o 55 o bobl o Landudno yn cymryd rhan. Mae pob un sy’n cymryd rhan ar y daith yn cyfrannu at y costau. Mae teuluoedd o Ffrainc a Chyngor Tref Wormhout yn darparu’r llety. Mae’r rheiny sy’n ymweld â Wormhout yn cael cyfle i ddysgu am hanes y dref, gan dalu teyrnged i’r rheiny gollodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn bennaf i’r rheiny fu farw yn ystod lladdfa Wormhout yn 1940.

Yn ystod ymweliad 2023, bu i Faer Llandudno, Cyng Greg J T Robbins, osod torchau ar ran y dref ar gofeb ryfel Wormhout ym mynwent Wormhout ac yn La Plaine au Bois er mwyn coffáu’r rheiny a gollodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu i’r Maer hefyd gymryd rhan yng Ngorymdaith Ddinesig Wormhout.

  • Maer Llandudno a Maer newydd Wormhout, David Calcoen yn gosod torch yn La Plaine au Bois
  • Meiri Llandudno a Wormhout yn gosod torchau ar gofeb ryfel y dref

Yn ystod y penwythnos bu i’r grŵp hefyd ymweld â Dunkerque gan gynnwys Amgueddfa Ryfel Dunkerque sy’n adrodd hanes Brwydr Dunkerque ac Ymgyrch Dynamo o fis Mai i Fehefin 1940, yr ymdrech wacáu fwyaf mewn hanes milwrol.

Eleni, bu i grŵp o ddawnswyr o ysgol ddawns Linzi Grace, swyddogion a chadetiaid o luoedd y Fyddin, Môr ac Awyrlu ymuno â’r grŵp.

  • Dawnswyr Linzi Grace yn perfformio yn y cinio dinesig

Bu i swyddogion a chadetiaid o Luoedd y Fyddin, Môr ac Awyrlu hefyd gymryd rhan yn yr ymweliad eleni. Bu iddynt gymryd rhan yn y seremonïau gosod torchau yn La Plaine Au Bois ac ym Mynwent Wormhout yn ogystal â gorymdeithio yng ngorymdaith ddinesig Wormhout. Cafodd y grŵp hefyd yr anrhydedd fawr o gymryd rhan yn yr orymdaith a gwasanaeth ar fachlud haul wrth Giât Menin yn Ypres.

  • Uchod, cadetiaid yn cymryd rhan yn yr Orymdaith Ddinesig ac yn La Plaine au Bois
  • Uchod, cadetiaid yn cymryd rhan yn yr Orymdaith Ddinesig ac yn La Plaine au Bois

Os hoffech chi fod yn rhan o waith Pwyllgor Gefeillio Trefi y Cyngor Tref drwy groesawu ymwelwyr o Ffrainc i aros gyda chi ac efallai cymryd rhan yn un o’r ymweliadau blynyddol, cysylltwch gyda’r Cyngor Tref.


Digwyddiadau