Hafan > Digwyddiadau > Miss Alice > Miss Alice 2024 – 2025
Miss Alys 2024-25
Ar ddydd Sadwrn, Mehefin y 1af 2024, cynhaliodd Llandudno eu cystadleuaeth Miss Alys blynyddol ac fe ddewiswyd Lilly Cottington fel y Miss Alys newydd. Roedd croeso i bob merch rhwng 8 a 10 oed sy’n byw yn 5 ward Llandudno gystadlu. Bu i’r Miss Alys oedd yn ymadael, Miss Poppy Bowen-Roberts longyfarch Lilly ar ei phenodiad, ac fe dderbyniodd sash gyda’i theitl arno a gwisg “Miss Alys”. Estynnwyd diolch hefyd i Poppy ar flwyddyn ardderchog fel Miss Alys.
Mae Lilly yn 9 mlwydd oed. Mae hi’n mwynhau canu, dawnsio, celf a chrefft a threulio amser gyda’i theulu. Fel rhan o’i rôl bydd gofyn iddi fynd i ddigwyddiadau Dinesig yng nghwmni’r Maer ac ymweld â mannau y tu hwnt i’r ardal o bryd i’w gilydd er mwyn hyrwyddo Llandudno a’r cysylltiad “Miss Alys”.
Os hoffech chi drefnu bod Miss Alys yn bresennol yn eich digwyddiad chi, cysylltwch gyda Dirprwy Glerc y Dref ar 01492 879130 neu e-bostiwch: deputyclerk@llandudno.gov.uk