
Billy Baxter, Town Crier of Llandudno
Mae Cyngor Tref Llandudno wedi penodi Mr Billy Baxter yn Grïwr tref Llandudno. Er nad ydy hon yn swydd gyflogedig fel y cyfryw, caiff y crïwr tref gyfraniad bychan i gydnabod ei ddyletswyddau, sy’n cynnwys y canlynol:
-
To promote the town locally and further afield
-
Cefnogi mudiadau, elusennau a grwpiau lleol drwy fynychu seremonïau a gweithgareddau yn ogystal ag agor digwyddiadau a busnesau newydd pan maen nhw’n gofyn iddo wneud hynny
-
Cyflwyno rôl y Crïwr Tref
-
Cerdded o gwmpas y dref yn croesawu trigolion ac ymwelwyr
-
Bloeddio cyhoeddiadau yn rheolaidd er mwyn hysbysebu digwyddiadau ac achlysuron fydd yn y dref
-
Cefnogi’r Maer a mynd i ddigwyddiadau sifig yn y dref
Mae Billy yn gyn Rhingyll Staff a fu’n gwasanaethu gyda Gynnau Mawrion y Ceffylau Brenhinol am bron i 21 o flynyddoedd cyn iddo golli ei olwg ym 1997 tra’r oedd yn gwasanaethu ym Mosnia. Fe symudodd i Landudno er mwyn gweithio ar gyfer Cyn-Filwyr Deillion Prydain fel Swyddog Cyswllt Adfer a Hyfforddi.
Mae Billy yn briod â Karen ac mae ganddyn nhw 3 o blant sydd bellach yn oedolion a 4 o wyrion ac wyresau. Mae ganddo lawer o ddiddordebau sy’n cynnwys marchogaeth, sgïo, dringo a physgota môr. Fo sy’n dal y record cyflymder ar gyfer beicio modur unigol y dall a bu ar raglen Top Gear yn gyrru “car pris rhesymol”. Mae o hefyd yn gweithio yng nghastell Bodelwyddan gyda thîm ymchwilio’r goruwchnaturiol yn mynd ag ymwelwyr ar deithiau tywys.
Wrth siarad am ei benodi, fe ddywedodd Billy: “Rydw i’n hynod o falch o gael gwasanaethu fy ngwlad yn ogystal â Llandudno, y dref sydd wedi rhoi anrhydedd y rôl yma i mi. Rydw i’n hoff iawn o bobl ac yn mwynhau gwneud iddyn nhw wenu.’ Billy ydy’r unig grïwr tref dall yn Ewrop ac yr ail yn hanes Prydain. Y Crïwr dall diweddaraf oedd Joseph Howarth o Oldham a fu’n grïwr rhwng 1820-1860, roedd o’n ddall ers ei eni.
Os gwelwch chi Billy yn cerdded o gwmpas y dref, cofiwch ddweud helo.
Os ydych chi am wahodd y Crïwr Tref i ryw ddigwyddiad, cysylltwch â Dirprwy Glerc y Dref ar 01492 879130 neu drwy e-bost ar deputyclerk@llandudno.gov.uk