Hafan > Bloom > Ffurflen Fy Ngardd I

Mae’r gystadleuaeth yn gwbl rhad ac am ddim ac mae croeso i bobl ag eiddo yn ward etholiadol Cyngor Tref Llandudno gystadlu h.y. Craig-y-Don, Gogarth, Mostyn, Penrhyn neu Tudno.
Gofynnwn yn garedig ichi gwblhau’r ffurflenni cystadlu a chaniatâd a’u dychwelyd â llaw neu drwy’r post i:
Llandudno yn ei Blodau, Cyngor Tref Llandudno, Neuadd y Dref, Stryd Lloyd, Llandudno, LL30 2UP, neu, gwblhau ar-lein yma www.llandudno.gov.uk/cy/bloom
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflenni ydy 3yp ar ddydd Llun, Mehefin y 17fed 2024.
Byddwn yn beirniadu o ddydd Llun, Gorffennaf y 1af hyd at ddydd Gwener, Gorffennaf y 5ed 2024, rhwng 9yb a 5yp. Bydd y beirniad yn gadael nodyn i’ch hysbysu eu bod wedi beirniadu’ch ymgais a’u bod wedi tynnu lluniau i’w harddangos ar ein gwefan.
Cynhelir Seremoni Wobrwyo ym mis Medi, lle bydd tystysgrifau i bawb sy'n ymgeisio a thlysau ar gyfer enillwyr pob Dosbarth.
Mae Fy Ngardd I yn gartref unigol gyda gardd neu rhandy/fflat gyda gardd gymunedol.
Dosbarthiadau
-
Gardd Flaen
-
Gardd Gynhwysydd Flaen - Gallai eich ymgais fod ar ffurf basgedi crog, blychau ffenestri neu flychau planhigion gwely.
Caiff eich ymgais ei feirniadu gan ddwyn i ystyriaeth y safonau isod:
Meini Prawf Marcio:
Effaith
Wedi’i feirniadu gan ddwyn
i ystyriaeth ysafonau canlynol:
Dyluniad, lliw a chyflwyniad
Mwyafswm Pwyntiau:
30
Meini Prawf Marcio:
Cynllun Plannu
Wedi’i feirniadu gan ddwyn
i ystyriaeth y safonau canlynol:
Detholiad o blanhigion
Mwyafswm Pwyntiau:
30
Meini Prawf Marcio:
Ymarfer Garddwriaethol
Wedi’i feirniadu gan ddwyn
i ystyriaeth y safonau canlynol:
Ansawdd y planhigion a chynaladwyedd
Mwyafswm Pwyntiau:
20
Meini Prawf Marcio:
Cynnal a chadw
Wedi’i feirniadu gan ddwyn
i ystyriaeth y safonau canlynol:
Dim chwyn, tynnu pennau gwywedig, amaethu
Mwyafswm Pwyntiau:
20
Gwobrau: Aur | Pwyntiau: 85-100 | Gradd: Rhagorol
Gwobrau: Euraidd | Pwyntiau: 75-84 | Gradd: Da Iawn
Gwobrau: Arian | Pwyntiau: 60-74 | Gradd: Da
Gwobrau: Cyflawniad | Pwyntiau: 0-59 | Gradd: Cymedrol