Hafan > Y Cyngor > Pwyllgorau ac Is Pwyllgorau

Mae holl gyfarfodydd y Cyngor Tref a’i bwyllgorau yn agored i’r cyhoedd. Mae rhaglenni’r cyfarfodydd ar hysbysfwrdd y Cyngor Tref y tu allan i Neuadd y Dref.

Oherwydd bod grymoedd penodol wedi eu dirprwyo i’r Pwyllgorau sy’n caniatáu iddyn nhw weithredu ar benderfyniadau, mae pob cynghorydd tref hefyd yn aelod o bob pwyllgor oni fo nhw’n dweud fel arall.

Twristiaeth a Gwasanaethau Cymunedol


Yn cwrdd nos Fawrth am 7yh. 19 aelod ar hyn o bryd.

Cadeirydd 2023/24: Cllr Miss C Marubbi

Is-gadeirydd:  Cllr Dr R L Atenstaedt

 

  • Mae’r Pwyllgor Twristiaeth a Gwasanaethau Cymunedol yn bwyllgor cyfansoddiadol sefydlog o Gyngor Tref Llandudno.

  • Mae’r Pwyllgor yn goruchwylio’r gwaith o reoli unrhyw ddarn o dir, cofeb, goleuadau addurnol, tai bach cyhoeddus a dodrefn stryd mae’r Cyngor Tref yn gyfrifol amdanyn nhw.

  • Mae’r Pwyllgor hefyd yn gyfrifol am roi sylw i’r gwasanaethau a’r cyfleustodau hynny sy’n effeithio ar y gymuned yn gyffredinol. Mae hefyd yn cefnogi haenau eraill o lywodraeth leol lle bo’n briodol, gan gynnwys hamdden a thwristiaeth, yr amgylchedd, adloniant a’r celfyddydau, ailgylchu a chasglu gwastraff, trefn gyhoeddus a diogelwch cymunedol a digwyddiadau a mudiadau cymunedol.

  • Mae’ n ymateb ar ran y Cyngor Tref i ddogfennau ymgynghorol sy’n berthnasol i waith y Pwyllgor.

  • Mae’n goruchwylio digwyddiadau cymunedol yn Llandudno.

  • Mae modd i’r Pwyllgor Twristiaeth a Gwasanaethau Cymunedol benodi is bwyllgorau neu bwyllgorau gwaith i hwyluso gwaith y Pwyllgor.

Y Prif Is Bwyllgorau / Pwyllgorau Gwaith


  • Miss Alice (Cadeirydd – Y Cyngh Mrs Janet Jones)

  • Goleuadau Addurnol (Cadeirydd  – Y Cynghr Don Milne)

  • Llandudno yn ei blodau (Y Cynghr Mrs Louise Emery)

  • Gorymdaith y Nadolig (Cadeirydd  – Cllr A Bertola)

  • Gefeillio (Cadeirydd - Cllr G J T Robbins)

  • Tân Gwyllt ( Y Cynghr Miss C Marubbi)

Aelodaeth y Pwyllgor 2023/24


Cllr Dr R Atenstaedt, Cllr Mrs C Beard, Cllr A W Bertola, Cllr F Bradfield, Cllr Mrs L G Emery, Cllr D J Hawkins, Cllr Mrs J Jones, Cllr Miss C Marubbi, Cllr D Milne, Cllr T Montgomery, Cllr Mrs A Mullineux, Cllr Miss A O’Grady, Cllr M A Pearce, Cllr G J T Robbins, Cllr H T M Saville, Cllr G Sweeny, Cllr Mrs M Wigzell, Cllr Mrs A Hawkins.

 

Cynllunio a Thrafnidiaeth


Yn cwrdd ar nos Fercher cyntaf bob mis am 6:00 yr hwyr. 9 aelod ar hyn o bryd.

Cadeirydd 2023/24: Y Cynghr G J T Robbins
Is Gadeirydd: Y Cynghr G Sweeny

  • Mae’r Pwyllgor Cynllunio a Thrafnidiaeth yn bwyllgor cyfansoddiadol sefydlog o Gyngor Tref Llandudno.

  • Yn ôl cyfraith gwlad mae’n rhaid ymgynghori gyda’r Cyngor Tref ynghylch ceisiadau cynllunio fydd yn effeithio ar y dref. Yn hyn o beth mae’r Pwyllgor Cynllunio yn cwrdd i edrych ar bob cais cynllunio perthnasol sy’n mynd gerbron Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - yr awdurdod cynllunio lleol. Mae’r Pwyllgor yn trafod pob cais ac yna’n rhoi gwybod i’r Cyngor Sir a ydyn nhw argymell naill ai ei gymeradwyo neu ei wrthod. Rhaid i’r penderfyniad fod yn seiliedig ar resymeg gynllunio.

  • At hyn, mae grymoedd wedi eu dirprwyo i’r Pwyllgor sy’n caniatáu iddo ymateb ar ran y Cyngor Tref i unrhyw gais yn ymwneud a gwaith cadwraeth coed, torri coed neu unrhyw fater arall yn ymwneud â choed a gorchmynion gwarchod coed. At hyn, fe all ymateb i unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad gan yr Arolygiaeth Gynllunio a pharatoi datganiadau i’w hanfon at yr Arolygiaeth. Bydd y Pwyllgor hefyd yn cynghori ar ymatebion mewn perthynas â Chynllun Datblygu Lleol Conwy ac yn ymateb i ymgynghoriadau mewn perthynas â’r amgylchedd adeiledig, ffyrdd a phriffyrdd, diogelwch ar y ffordd, llwybrau troed, parcio, rheoli traffig a rheoliadau’n ymwneud â hynny.

  • Mae’n bosib i’r Pwyllgor Cynllunio a Thrafnidiaeth benodi is-bwyllgorau neu bwyllgorau gwaith i hwyluso gwaith y Pwyllgor.

Is-bwyllgorau:


  • Trafnidiaeth a Hawliau Tramwy Cyhoeddus (Cadeirydd - Cllr G Sweeny)

Aelodaeth y Pwyllgor 2023/24


Cllr Dr R Atenstaedt, Cllr Mrs C Beard, Cllr F Bradfield, Cllr Mrs J Jones, Cllr Miss C Marubbi, Cllr D Milne, Cllr M A Pearce, Cllr G J T Robbins, Cllr G Sweeny.

 

Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol


Yn cwrdd nos Iau am 7yh. 19 aelod ar hyn o bryd.

Cadeirydd 2023/24 Y Cynghr F Bradfield
Is-gadeirydd Y Cyngh Mrs L Saville

  • Mae’r Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol yn bwyllgor cyfansoddiadol sefydlog o Gyngor Tref Llandudno

  • Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am bob agwedd o waith gweinyddu ariannol y Cyngor, gan gynnwys: incwm, gwariant, y cyfrifon ac archwiliadau ariannol, rheoliadau ariannol a materion cyfreithiol a chytundebol.

  • Mae’r Pwyllgor hefyd yn cynghori’r Cyngor ynglŷn ag amcangyfrif gwahanol elfennau’r gyllideb flynyddol ac ynghylch faint o Archebiant i’w godi bob blwyddyn.

  • Mae’n penderfynu ar bolisïau a strategaethau corfforaethol ac ar faterion yn ymwneud â staff a chyflogaeth

  • Mae’n pwyso a mesur ceisiadau grant

  • Mae’n datblygu ac yn cynnal a chadw cyfleusterau technoleg gwybodaeth y Cyngor.

  • Mae modd i’r Pwyllgor Ariannol a Dibenion Cyffredinol benodi is-bwyllgorau neu bwyllgorau gwaith i hwyluso gwaith y Pwyllgor.

Yr is-bwyllgorau ariannol


  • Civic (Cadeirydd – Y Cyngh Don Milne)

  • Grants (Cadeirydd - Cllr F Bradfield)

  • Staff (Cadeirydd – Y Cyngh Mrs Louise Emery)

  • West Shore (Tram) Shelter (Cadeirydd – Y Cyngh Mrs Louise Emery)

  • Website Working Party Cadeirydd – Y Cyngh Mrs Louise Emery

  • Standing Orders Working Party Cadeirydd – To be advised

  • Boundaries Cadeirydd - To be advised

Aelodaeth y Pwyllgor 2023/24


Cllr Dr R Atenstaedt, Cllr Mrs C Beard, Cllr A W Bertola, Cllr F Bradfield, Cllr Mrs L G Emery, Cllr D J Hawkins, Cllr Loren Saville, Cllr Miss C Marubbi, Cllr D Milne, Cllr T Montgomery, Cllr Miss A O’Grady, Cllr M A Pearce, Cllr G J T Robbins, Cllr H T M Saville, Cllr G Sweeny, Cllr I Turner, Cllr Mrs A Hawkins & Cllr Mrs A Mullineux.