Hafan > Maerol > Rhingyll y Maer

Rhingyll y Maer Mr Martin Smith

Rhingyll y Maer Mr Martin Smith

Crëwyd y swydd yn 2003 fel un lle mae swm bychan o dâl yn gydnabyddiaeth am y gwaith. Mae’r rôl yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Cyhoeddi’r Maer yng nghyfarfodydd y Cyngor.

  •  Helpu’r Maer â’i ddyletswyddau, yn cynnwys ei arwisgo.

  •  Mynd i ddigwyddiadau sifig amrywiol gyda’r Maer, neu ddigwyddiadau eraill yn ystod y flwyddyn.

  • Bod yn Stiward yn y Cyfarfod Blynyddol.

  • Helpu cynnal a threfnu seremonïau sifig a digwyddiadau eraill, yn cynnwys y Cyfarfod Blynyddol, Sul Sifig, Gorymdeithiau Heddwch, Cymru yn ei Blodau, cystadleuaeth Miss Alice, seremonïau Gefeillio’r Dref, Noson Tân Gwyllt, Sul y Cofio, Gorymdaith y Nadolig a seremonïau eraill fel bo’r angen

  • Helpu ymwelwyr Cyngor Tref Llandudno e.e. Ysgolion a grwpiau cymunedol/gwirfoddol, ymwelwyr o dramor, pwysigion y dref, cynrychiolwyr y lluoedd arfog (rhai’r presennol a’r gorffennol), busnesau ac unigolion.