Hafan > Bloom > Ffurflen Man Cymunedol

Banner Bloom 2025

Mae’r gystadleuaeth yn gwbl rhad ac am ddim ac mae croeso i bobl ag eiddo yn ward etholiadol Cyngor Tref Llandudno gystadlu h.y. Craig-y-Don, Gogarth, Mostyn, Penrhyn neu Tudno.   

Gofynnwn yn garedig ichi gwblhau’r ffurflenni cystadlu a chaniatâd  a’u dychwelyd â llaw neu drwy’r post i:
Llandudno yn ei Blodau, Cyngor Tref Llandudno, Neuadd y Dref, Stryd Lloyd, Llandudno, LL30 2UP, neu, gwblhau ar-lein yma www.llandudno.gov.uk/cy/bloom

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflenni ydy 3yp ar ddydd Llun, Mehefin y 17fed 2024.

Byddwn yn beirniadu o ddydd Llun, Gorffennaf y 1af hyd at ddydd Gwener, Gorffennaf y 5ed 2024, rhwng 9yb a 5yp. Bydd y beirniad yn gadael nodyn i’ch hysbysu eu bod wedi beirniadu’ch ymgais a’u bod wedi tynnu lluniau i’w harddangos ar ein gwefan.

Cynhelir Seremoni Wobrwyo ym mis Medi, lle bydd tystysgrifau i bawb sy'n ymgeisio a thlysau ar gyfer enillwyr pob Dosbarth.     

Dosbarth

  1. Canolfan Gymunedol, Llyfrgell Gymunedol, Canolfan Iechyd, Cartref Nyrsio neu Ganolfan Gofal Preswyl 

  2. Meithrinfa neu Ysgol 

  3. Maes Hamdden neu Chwaraeon 

  4. Addoldai    

Gallai eich ymgais fod ar ffurf basgedi crog, blychau ffenestri, blychau planhigion gwely, planhigion lluosflwydd, gardd gyfoes, gardd draddodiadol neu gyfuniad o’r rhain i gyd, waeth beth fo’u maint, gewch chi ddewis. 

Caiff eich ymgais ei feirniadu gan ddwyn i ystyriaeth y safonau isod: 

Meini Prawf Marcio:
Effaith

Wedi’i feirniadu gan ddwyn
i ystyriaeth ysafonau canlynol:

Dyluniad, lliw a chyflwyniad

Mwyafswm Pwyntiau:
30

Meini Prawf Marcio:
Cynllun Plannu

Wedi’i feirniadu gan ddwyn
i ystyriaeth y safonau canlynol:

Detholiad o blanhigion

Mwyafswm Pwyntiau:
30

Meini Prawf Marcio:
Ymarfer Garddwriaethol

Wedi’i feirniadu gan ddwyn
i ystyriaeth y safonau canlynol:

Ansawdd y planhigion a chynaladwyedd

Mwyafswm Pwyntiau:
20

Meini Prawf Marcio: 
Cynnal a chadw

Wedi’i feirniadu gan ddwyn
i ystyriaeth y safonau canlynol:

Dim chwyn, tynnu pennau gwywedig, amaethu

Mwyafswm Pwyntiau:
20


Gwobrau: Aur | Pwyntiau: 85-100 | Gradd: Rhagorol


Gwobrau: Euraidd | Pwyntiau: 75-84 | Gradd: Da Iawn


Gwobrau: Arian | Pwyntiau: 60-74 | Gradd: Da


Gwobrau: Cyflawniad | Pwyntiau: 0-59 | Gradd: Cymedrol


Sylwch:  Byddwn yn cysylltu gyda dosbarthiadau 1, 2 a 3 cyn cychwyn yr wythnos feirniadu er mwyn trefnu amser a diwrnod cyfleus. Byddwn yn beirniadu Dosbarth 4 rhwng 9yb – 5yp ar y diwrnodau sydd wedi’u crybwyll uchod. Ni allwn drefnu amser neu ddiwrnod penodol.

Lawrlwythwch Ffurflen Bapur Man Cymunedol (PDF)

Ffurflen Gystadlu

Ffurflen Ganiatâd Data

Bydd y Cyngor Tref yn cadw eich data er y dibenion canlynol:

  • I gysylltu gyda chi ynghylch unrhyw fanylion sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth Llandudno yn ei Blodau gan gynnwys cyhoeddi’r canlyniadau a chystadlaethau yn y dyfodol.

  • I’w anfon at feirniaid / ffotograffydd y Cyngor Tref ar ran y gystadleuaeth Llandudno yn ei Blodau er mwyn iddyn nhw feirniadu a thynnu llun o’ch ymgais.

  • Caiff lluniau o’ch eiddo eu defnyddio ar wefan y Cyngor Tref a gwefan Llandudno yn ei Blodau yn ogystal â deunydd hyrwyddo sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth Llandudno yn ei Blodau ac ymgyrchoedd Blodau eraill.

Gallwch ddiddymu’ch caniatâd unrhyw bryd drwy gysylltu gyda swyddfa’r cyngor.