Y Cyng. Mrs Mandy Hawkins, 2026-2027
Cafodd Maer newydd Llandudno, y Cyng. Mrs Mandy Hawkins ei hurddo ar ddydd Gwener, Mai’r 22ain 2026. Cynhaliwyd y seremoni yn yr Ystafell Gyfarfod, Neuadd y Dref Llandudno. Roedd modd i aelodau’r Cyngor Tref fod yn bresennol yn y digwyddiad neu ymuno ar-lein dros Zoom.
Bu i’r hen Faer, y Cyng. Bertola gynnig ei gefnogaeth i’r Maer newydd a dymunodd iddi flwyddyn lwyddiannus a llawen yn ei swydd. Cafodd y Cyng. David Hawkins ei urddo fel Cydymaith y Maer.
Digwyddiadau Maerol
Mae gan y Maer ddyddiadur llawn digwyddiadau sy’n amrywio o achlysuron Dinesig yn Llandudno a threfi cyfagos, i agor siopau a busnesau eraill, cyflwyno gwobrau mewn seremonïau cymdeithasol a chwaraeon, a mynychu digwyddiadau wedi’u trefnu gan grwpiau gwirfoddol a chymunedol.
Os hoffech chi wahodd y Maer i fynychu digwyddiad rydych yn ei drefnu, cysylltwch gydag Ysgrifennydd y Maer ar 01492 879 130 neu e-bostiwch assistant@llandudno.gov.uk
MANYLION BYWGRAFFIADOL
Symudodd Mandy i Landudno dros ddau ddegawd yn ôl gyda’i gŵr a’u tair merch Amy, Danielle a Jennifer i gynnig y cychwyn gorau posibl mewn bywyd i’w teulu ifanc. Gan hanu o Lerpwl yn wreiddiol, mae Mandy yn dal i fod yn falch iawn o’i gwreiddiau. Yn wir mae’n dweud yn aml mai’r ddinas yw ei chynefin ond mae Llandudno yn meddwl y byd iddi, a bellach mae hi’n falch o’i alw’n gartref iddi.
Dros y blynyddoedd bu i yrfa Mandy ymestyn ledled sawl sector, gan gynnwys gwasanaethau ariannol a chlustogwaith medrus, cyn iddi fwrw iddi i sefydlu Gwasanaethau Glanhau Tŷ Glân, y mae hi wedi’i gynnal yn llwyddiannus ers saith blynedd bellach. Mae hi’n arwain tîm lleol bach ond ymroddgar ac yn ymroi i greu swyddi o safon i drigolion lleol, gan gynnig tâl teg uwchben y Cyflog Byw Gwirioneddol a gwaith sy’n cyd-fynd ag oriau ysgol.
Ym mis Mai 2022, cafodd Mandy ei hethol fel Cynghorydd Sir ar ran Ward Gogarth Mostyn, ac yn fuan wedi hynny fe gafodd ei hethol fel Cynghorydd Tref Ward Mostyn. Mae hi’n mwynhau pob agwedd o’r ddwy rôl, yn enwedig y gwaith sy’n ymwneud â’r gymuned, cwrdd â phreswylwyr, cefnogi prosiectau lleol, a helpu pobl gyda heriau pob dydd. Treuliodd Mandy flwyddyn hefyd yn gweithio’n rhan amser ar gyfer yr AS lleol Claire Hughes fel ei Rheolwr Cymorth Etholaeth, yn cynorthwyo preswylwyr gyda materion Tai a’r Adran Gwaith a Phensiynau. Cyn hynny, bu’n gwasanaethu fel Cymhares y Maer pan fu ei gŵr David yn gwasanaethu fel Maer yn ystod 2018/2019.
Mae’n fraint ac yn anrhydedd gan Mandy gael ei hethol i wasanaethu fel Maer Llandudno. Gydag uniondeb, tegwch a thosturi, mae hi wedi ymrwymo i arwain y cyngor a chryfhau bywyd cymunedol ledled y dref a sicrhau bod Llandudno yn parhau i fod yn rywle lle mae pobl yn teimlo wedi’u cefnogi a’u gwerthfawrogi ac yn falch o fyw yma."

