Hafan > Bloom
Mae’r gystadleuaeth yn gwbl rhad ac am ddim ac mae croeso i bobl ag eiddo yn ward etholiadol Cyngor Tref Llandudno gystadlu h.y. Craig-y-Don, Gogarth, Mostyn, Penrhyn neu Tudno.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflenni ydy 3yp ar ddydd Llun, Mehefin y 17fed 2024.
Byddwn yn beirniadu o ddydd Llun, Gorffennaf y 1af hyd at ddydd Gwener, Gorffennaf y 5ed 2024, rhwng 9yb a 5yp. Bydd y beirniad yn gadael nodyn i’ch hysbysu eu bod wedi beirniadu’ch ymgais a’u bod wedi tynnu lluniau i’w harddangos ar ein gwefan.
Cynhelir Seremoni Wobrwyo ym mis Medi, lle bydd tystysgrifau i bawb sy'n ymgeisio a thlysau ar gyfer enillwyr pob Dosbarth.
Dosbarthiadau Busnesau yn eu Blodau
- Llety neu Westy gyda llai na 8 ystafell wely neu eiddo hunanarlwyo
- Llety neu Westy 8 – 16 ystafell wely
- Gwesty 17 - 35 ystafell wely
- Gwesty gyda dros 35 o ystafelloedd gwely
- Caffi, Siop Goffi, Bwyty (ac eithrio gwestai)
- Tŷ Tafarn
- Eiddo Manwerthu neu Fasnachol
Gallai eich ymgais fod ar ffurf basgedi crog, blychau ffenestri, blychau planhigion gwely, planhigion lluosflwydd, gardd gyfoes, gardd draddodiadol neu gyfuniad o’r rhain i gyd, waeth beth fo’u maint, gewch chi ddewis. Sylwch fod yn rhaid i’ch ymgais fod yn weladwy o’r palmant neu’r ffordd.
Caiff eich ymgais ei feirniadu gan ddwyn i ystyriaeth y safonau isod:
Meini Prawf Marcio - Effaith
Wedi’i feirniadu gan ddwyn i ystyriaeth y safonau canlynol - Dyluniad, lliw a chyflwyniad
Mwyafswm Pwyntiau - 30
Meini Prawf Marcio - Cynllun Plannu
Wedi’i feirniadu gan ddwyn i ystyriaeth y safonau canlynol - Detholiad o blanhigion
Mwyafswm Pwyntiau - 30
Meini Prawf Marcio - Ymarfer Garddwriaethol
Wedi’i feirniadu gan ddwyn i ystyriaeth y safonau canlynol - Ansawdd y planhigion a chynaladwyedd
Mwyafswm Pwyntiau - 20
Meini Prawf Marcio - Cynnal a chadw
Wedi’i feirniadu gan ddwyn i ystyriaeth y safonau canlynol - Dim chwyn, tynnu pennau gwywedig, amaethu
Mwyafswm Pwyntiau - 20
Gwobrau - Aur, Euraidd, Arian, Cyflawniad
Pwyntiau - 85-100, 75-84, 60-74, 0-59
Gradd - Rhagorol, Da Iawn, Da, Cymedrol