
Y Dirprwy Faer y Cyng. Miss Carol Marubbi gyda’r Dirprwy Faeres Mrs Linda Bailey
Ar Fai’r 21ain 2021, cafodd y Cyng. Miss Carol Marubbi ei hethol fel Dirprwy Faer Llandudno ar gyfer blwyddyn y cyngor 2021-2022 ac fe gyflwynodd Maer Llandudno ei bathodyn swyddfa iddi. Cafodd Mrs Linda Bailey ei phenodi fel y Dirprwy Faeres.
Mae dyddiadur Dirprwy Faer yn llawn i’r ymylon gan ei fod yn aml yn mynychu ymrwymiadau ar ran y Maer pan fo hi’n mynychu digwyddiadau eraill.