Hafan > Grantiau
Pob blwyddyn mae’r Cyngor Tref yn dosbarthu grantiau i fudiadau gwirfoddol ac elusennol sy’n cynnig gwasanaeth i, neu er budd, trigolion Llandudno neu grŵp penodol o drigolion. Yn ogystal â chynnig grantiau i fudiadau sydd eisoes yn bodoli, gall y Cyngor Tref gynnig grantiau i helpu sefydlu mudiadau newydd.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau yn ystod yr hydref pob blwyddyn a byddan nhw’n eu rhoddi yn ystod Mehefin / Gorffennaf y flwyddyn ganlynol. Gallwch dderbyn ffurflenni cais o Neuadd y Dref neu eu lawr lwytho oddi ar y dudalen hon.
Yn ddiweddar bu i’r Cyngor Tref gwblhau eu proses rhoddi grantiau ar gyfer cyllid yn 2023/24.
Gallwch lawr lwytho ffurflenni cais ar gyfer cyllid yn 2024/25 o haf 2023 ymlaen.
Sylwch mai ond cyfanswm cyfyngedig o gyllid sydd gan y Cyngor Tref er mwyn rhoddi grantiau ac mae nifer y ceisiadau pob blwyddyn yn fwy na’r gyllideb sydd ar gael. Mae’r broses rhoddi grantiau a’r cyfanswm cyllid fel y barno’r Cyngor Tref yn ddoeth.