Hafan > Ymddiriedolaethau
Mae Cyngor Tref Llandudno yn gysylltiedig â llawer o Ymddiriedolaethau Elusennol sydd wedi eu sefydlu er lles pobl y dref.
Amgueddfa ac Oriel Gelfyddyd Tŷ Rapallo - Ymddiriedolaeth Chardon
Yn y bôn rheoli Amgueddfa Llandudno, Stryd Gloddaeth, ydy gwaith yr ymddiriedolaeth ond mae modd hefyd iddi gynnig cyfleusterau addysgol yn yr Amgueddfa.
Elusen Edward William Johnson
Sefydlwyd yr elusen yn 1904 ac fe’i defnyddiwyd i gynnal digwyddiad ‘Johnson Tea’ y plant. Roedd hwn yn arfer bod yn ddigwyddiad blynyddol yn Payne’s Café Royale hyd at ganol y 1960au. Ar ôl rhai blynyddoedd tawel, bu i’r Cyngor Tref a’r Comisiynydd Elusennau drefnu cynllun newydd i reoli’r ymddiriedolaeth. Bellach, mae’r ymddiriedolaeth yn lleddfu caledi plant ysgol lleol hyd at 16 mlwydd oed dan amodau penodol.
Elusen Richard Owen
Mae’r elusen hon yn cydweithredu ag Awdurdod Addysg Lleol er mwyn helpu myfyrwyr.
-
Mae posib cynnig grantiau i fuddiolwyr sy’n byw yn Llandudno ac sy’n astudio mewn prifysgol, Coleg Prifysgol, coleg hyfforddi athrawon neu sefydliad addysg uwch arall y mae’r ymddiriedolwyr wedi ei gymeradwyo.
-
Mae bwrsariaethau neu lwfansau cynnal ar gael i roi cyfle i fuddiolwyr gael mynd ar deithiau addysgol dramor;
-
Mae modd cynnig cymorth ariannol, dillad, deunyddiau, offerynnau neu lyfrau i helpu buddiolwyr wrth iddyn nhw adael yr ysgol, prifysgol neu unrhyw sefydliad addysgol arall er mwyn eu paratoi nhw ar gyfer swydd, crefft neu alwedigaeth; ac
-
Mae’n hybu addysg buddiolwyr, gan gynnwys hyfforddiant cymdeithasol a chorfforol.
Mae ‘Buddiolwyr’ yn bobl sydd wedi eu geni neu sy’n byw yn yr ardal fuddiol, sydd dan 25 oed ac mae’r ymddiriedolwyr yn eu hystyried fel pobl y mae arnyn nhw angen cymorth ariannol.
Ymddiriedolaeth Samuel Chantrey ac Ymddiriedolaeth Cartref Ymadfer Llandudno
Mae’r elusennau hyn yn dod o dan elusen Relief in Need yn Llandudno. Mae’r elusen yn rhoi cymorth cyfyngedig i’r henoed.