Hafan > Y Cyngor > Beth mae'r Cyngor yn ei wneud
Cyngor Tref Llandudno ydy haen agosaf llywodraeth leol at bobl y dref. Cafodd ei ffurfio 49 mlynedd yn ôl yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974. Mae 20 o Gynghorwyr sy’n cynrychioli pum ward (Craig Y Don, Gogarth, Mostyn, Penrhyn a Thudno). Mae hyn yn gyfanswm poblogaeth o tua 20,603 (amcangyfrif 2020).
Mae Cyngor Tref Llandudno’n cyfarfod nos Wener am 7yh. Mae tri Phwyllgor Sefydlog: Twristiaeth a Gwasanaethau Cymunedol, Cyllid a Dibenion Cyffredinol, a Chynllunio a Thrafnidiaeth. Mae cylched gyflawn y cyfarfodydd i’w gweld ar y wefan, o dan y pennawd ‘Dyddiadau Cyfarfodydd y Cyngor.’ Mae yna hefyd amrywiaeth o is-bwyllgorau, sy’n cyfarfod drwy’r flwyddyn fel bo’r angen. Mae’r prif rai wedi eu rhestru isod.
Mae Cyfarfod Blynyddoedd y Cyngor ym mis Mai ac yn y cyfarfod yma yr etholir y Maer a’r Dirprwy Faer o blith yr Aelodau.
Gweithio mewn partneriaeth:
Mae Cyngor Tref Llandudno yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar lawer o brosiectau sy’n fuddiol i’r dref. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys: Darpariaeth Cynllun Chwarae, meysydd chwarae, darparu safleoedd bws, biniau sbwriel a heyrn stryd, goleuo Gerddi’r Fach, Pwll Nofio Llandudno a Theledu Cylch Cyfyng. Mae Cyngor y Dref hefyd yn cynrychioli’r ardal leol fel ymgynghorydd ar lawer o faterion, yn cynnwys Cynllunio a Datblygu. Mae hefyd yn cynrychioli’r gymuned mewn llawer o sefydliadau yn cynnwys Cymdeithas Cynghorau Tref a Chymunedau Mawr Gogledd Cymru, Llandudno Coastal Forum, the Llandudno Local Area Forum ac amryw o sefydliadau cymunedol eraill.
Mae gan pob cyngor tref a chymuned bwerau wedi eu rhoi gan y Llywodraeth, yn cynnwys awdurdod i godi arian. Mae Cyngor Tref Llandudno yn codi arian yn bennaf drwy Dreth Cyngor drwy archebiant blynyddol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae rhan fwyaf yr arian yn mynd yn ôl i’r gymuned. Mae’r Cyngor hefyd yn ceisio manteisio ar ffynonellau cyllid eraill megis: chwilio am noddwyr a rhoddion ar gyfer cystadlaethau neu ddigwyddiadau.
STRWYTHUR Y CYNGOR:
Cyngor
Pwyllgor Twristiaeth a Gwasanaethau Cymunedol
-
Is Bwyllgor Gorymdaith y Nadolig
-
Is Bwyllgor Goleuadau Addurnol
-
Is Bwyllgor Llandudno yn ei Blodau
-
Is Bwyllgor Miss Alice
-
Pwyllgor Gefeillio’r Dref
-
Pwyllgor Gwaith Gwella Canol y Dref
-
Fireworks Sub-Committee
Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol
-
Is Bwyllgor Sifig
-
Is Bwyllgor Grantiau
-
Is Bwyllgor Staffio
-
West Shore (Tram) Shelter Working Party
-
Town Hall Working Party
-
Website Working Party
-
Standing Orders Working Party
-
Boundaries Sub-Committee
Pwyllgor Cynllunio a Thrafnidiaeth
-
Is Bwyllgor Trafnidiaeth a Hawliau Tramwy Cyhoeddus
DIGWYDDIADAU SIFIG:
-
Penodi’r Maer (Mai)
-
Sul Sifig(Gorffennaf)
-
Sul y Cofio (Tachwedd)
-
Gorymdaith Ryddfraint (dwywaith y flwyddyn)
DATHLIADAU BLYNYDDOL:
-
Gorymdaith y Nadolig
-
Tân Gwyllt
-
Cystadleuaeth Llandudno yn ei Blodau
-
Cystadleuaeth Miss Alice
-
Cystadleuaeth Cymru yn ei blodau gan y Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol
-
Goleuadau’r Nadolig
-
Digwyddiadau Gefeillio’r Dref
-
Goleuadau Addurno Haf a Gaeaf
GWASANAETHAU A CHYFLEUSTERAU:
-
Goleuadau Addurno a Goleuadau Nadolig
-
Torri Gwair Llwybrau Cyhoeddus Llandudno
-
Carreg Goffa, y Promenâd
-
Carreg Goffa, Ochr y Penrhyn
-
Carreg Goffa, Sant Tudno
-
Parc Ochr y Penrhyn
-
Maes Ochr y Penrhyn
-
Gerddi Biwmares
-
Cerflun y Gwningen Wen
-
Safle Tram Penmorfa
-
Meini Coffa (Victoria a Ted yr Ogof)
GRANTIAU:
-
Grantiau i grwpiau cymunedol/gwirfoddol