Hafan > Digwyddiadau > Archif > Cystadleuaeth Miss Alice 2024 - 2025

Mae’n bleser gan Gyngor Tref Llandudno gyhoeddi eu bod yn bwriadu parhau gyda’u Cystadleuaeth Miss Alice blynyddol eleni. Bydd y gystadleuaeth ar ddydd Sadwrn, Mehefin y 1af 2024.

Bydd angen i riant/rhieni neu warchodwr/warchodwyr yr ymgeisydd gydarwyddo’r ffurflenni wedi’u cwblhau gan ddatgan eu bod yn llwyr gefnogi eu plentyn gyda’u cais ac, os bydd eu plentyn yn llwyddiannus gyda’u cais, yn eu cefnogi yn ystod digwyddiadau dilynol.

Caiff yr holl ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i banel beirniadu arbennig ar ddydd Sadwrn, Mehefin y 1af yng Nghanolfan Lles Pobl Hŷn, Rhodfa’r Drindod, Llandudno.

Pob lwc gyda’ch ceisiadau.


Archif