Hafan > Digwyddiadau > Archif > Dydd Sul Dinesig 2019
Bu i Faer Llandudno, y Cyng. Angela O’Grady gynnal ei dathliad Dydd Sul Dinesig ar ddydd Sul, Gorffennaf yr 28ain 2019. Bu i’r diwrnod ddechrau gyda gorymdaith wedi’i harwain gan Fand Tref Llandudno. Bu i’r Maer, y Cynghorwyr, Urddasolion dinesig, mudiadau milwrol, sifilaidd a chymunedol orymdeithio at y gofeb rhyfel er mwyn gosod torch arni. Yna aeth yr orymdaith yn ei blaen tuag at Eglwys Gatholig ‘Our Lady Star of the Sea’ ar gyfer y Gwasanaeth Dinesig wedi’i lywyddu gan Gaplan y Maer, Y Tad Parchedig Moses Amune, msp. Ar ôl y gwasanaeth, bu i’r orymdaith ail-ffurfio a dychwelyd i Neuadd y Dref, lle bu i’r Maer dderbyn y saliwt, cyn mynd rhagddi i Westy San Siôr am ginio. Y ogystal â’r Cynghorwyr ac Urddasolion dinesig, bu i gynrychiolwyr o nifer o fudiadau gwirfoddol a chymunedol yn Llandudno fynychu’r cinio hefyd fel diolch iddyn nhw am yr holl waith maen nhw’n ei gyflawni drwy gydol y flwyddyn yn y gymuned. Roedd y Maer yn arbennig o falch i groesawu Mr A Hughes o’r Amgueddfa ‘Home Front’ a Mr A Rigby, fel ei siaradwyr gwadd.