Hafan > Digwyddiadau > Archif > Dydd Sul Dinesig 2021

Dydd Sul Dinesig 2021

Bu i Faer Llandudno, Cyng Harry Saville gynnal ei ddathliad Dydd Sul Dinesig ar Ddydd Sul y 19eg o Fedi 2021. Dechreuodd y diwrnod gyda Gorymdaith, wedi’i harwain gan Fand Tref Llandudno gan gynnwys y Maer, Cynghorwyr, urddasolion Dinesig, sifiliaid a mudiadau cymunedol, at y gofeb ryfel er mwyn gosod torch. Aeth yr Orymdaith yna yn ei blaen at Eglwys y Methodistiaid Sant John ar gyfer y Gwasanaeth Dinesig, dan ofal Caplan y Maer, y Parch. Beverley Ramsden. Ar ôl y Gwasanaeth, daeth yr Orymdaith yn ôl at ei gilydd a dychwelyd at  Neuadd y Dref, lle bu i’r Maer sefyll i’r saliwt, cyn mynd ymlaen at Westy St George am ginio. Yn ogystal â Chynghorwyr ac urddasolion Dinesig, bu i gynrychiolwyr o nifer o fudiadau gwirfoddol a chymunedol yn Llandudno hefyd fynychu’r cinio fel ffordd o ddiolch iddynt am eu holl waith yn y gymuned drwy gydol y flwyddyn. Roedd y Maer yn hynod o falch o groesawu Mr J Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr, Twristiaeth Gogledd Cymru a Mr R Haley, Cadeirydd, Amgueddfa ac Oriel Llandudno fel ei siaradwyr gwadd.

  • Maer Llandudno yn gosod torch wrth Gofeb Ryfel Llandudno ar Ddydd Sul Dinesig
  • Y Maer yng Ngorymdaith Dydd Sul Dinesig
  • Band tref Llandudno yn arwain yr orymdaith

Archif