Hafan > Digwyddiadau > Archif > Dydd Sul Dinesig 2023

Bu i Faer Llandudno, Cyng. Greg J T Robbins gynnal ei ddathliad Dydd Sul Dinesig ar ddydd Sul, Gorffennaf y 30ain 2023. I gychwyn y diwrnod fe gynhaliwyd Gorymdaith, wedi’i arwain gan Fand Tref Llandudno gan gynnwys y Maer, y Cynghorwyr, urddasolion Dinesig a mudiadau milwrol, dinesig a chymunedol, i osod torchau ar y gofeb ryfel. Yna aeth yr Orymdaith rhagddi i Eglwys y Drindod Sanctaidd ar gyfer y Gwasanaeth Dinesig, o dan lywyddiaeth y Parchedig Janet Fletcher a Chaplan y Maer, y Parchedig Ganon Philip Barratt. Yn dilyn y gwasanaeth, bu i’r Orymdaith ymgynnull unwaith eto a dychwelyd i Neuadd y Dref, lle bu i’r Maer roi salíwt cyn parhau i Westy St George i fwynhau tamaid i ginio. Yn ogystal â Chynghorwyr ac urddasolion Dinesig, bu i gynrychiolwyr o nifer o fudiadau gwirfoddol a chymunedol yn Llandudno ymuno gyda nhw am ginio hefyd fel arwydd o ddiolch iddyn nhw am yr holl waith maen nhw’n ei gyflawni yn y gymuned drwy gydol y flwyddyn. Roedd y Maer yn arbennig o falch o groesawu Dr M Baker, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych a Chadlywydd Adain C Ball, Pennaeth Milwrol Sgwadron 72 (F), Awyrlu Brenhinol y Fali fel ei siaradwyr gwadd.”

  • Maer Llandudno yn gosod torch ar Gofeb Rhyfel Llandudno ar y dydd Sul Dinesig.
  • Y Maer yn yr Orymdaith ar y dydd Sul Dinesig.
  • Band Tref Llandudno yn arwain yr Orymdaith

Archif