Hafan > Digwyddiadau > Disgyblion o Ysgol Craig y Don yn ennill Twrnamaint Pêl-droed Rhyngwladol Iau Wormhout

Disgyblion o Ysgol Craig y Don yn ennill Twrnamaint Pêl-droed Rhyngwladol Iau Wormhout 

Bu ymweliad i Wormhout yng ngogledd Ffrainc, sef gefeilldref Llandudno, yn llwyddiant mawr i ddisgyblion o Ysgol Craig y Don dros y penwythnos (Mai 29ain – Mehefin 1af).
 
Ers dros 30 mlynedd, mae ysgolion o Landudno wedi teithio i Wormhout i gymryd rhan yn nhwrnamaint Pêl-droed Rhyngwladol Iau Wormhout gan gystadlu yn erbyn timau o Wormhout ac ar draws Ewrop. 
 
Am y tro cyntaf erioed, bu i ysgol o Landudno ennill y twrnamaint cyfan. 

Ar fore Sadwrn yr ymweliad, dechreuodd y gemau am 9yb yn y gystadleuaeth 8 bob ochr hon gydag Ysgol Craig y Don yn cyrraedd y rownd derfynol yn y pendraw. 
 
Ar ôl chwarae gêm gyfartal a hynod gyffrous yn erbyn tîm anodd o ardal Paris, aeth y gêm ymlaen at ornest cicio o’r smotyn. Unwaith eto, bu i Ysgol Craig y Don serennu gan guro’r gwrthwynebwyr o Ffrainc.  
 
Nid ydym erioed wedi gweld y llwyddiant yma o’r blaen gan ysgolion lleol Llandudno, felly llongyfarchiadau mawr i’r holl chwaraewyr, athrawon ysgol a hyfforddwyr.
 
Yn ogystal, bu i dîm Ysgol Craig y Don hefyd chwarae yn erbyn tîm Iau Wormhout ar y nos Wener, a’u curo mewn gêm agos iawn o 5 gôl i 4 er mwyn dod â’r Tlws Gynnau Mawrion Brenhinol gartref. Roedd y chwaraewyr yn arbennig ac yn llawn cymhelliant. 
 
Dywedodd Maer Llandudno, Cyng Antony Bertola “Rydw i’n hynod falch o’r disgyblion o Ysgol Craig y Don am gynrychioli Llandudno yn y twrnamaint. Mae hwn yn gyrhaeddiad gwych.”

Ychwanegodd Cyng Greg Robbins, Cadeirydd y Pwyllgor Gefeillio Trefi, “Am ganlyniad gwych gan ein chwaraewyr ifanc sydd wedi cynrychioli’r dref mor arbennig ar y cae yn ogystal ag oddi ar y cae. Mae’r trip hefyd yn eu gwneud yn ymwybodol o’r lladdfa ddigwyddodd 85 mlynedd yn ôl wnaeth arwain at y cyfeillgarwch parhaus hwn rhwng Llandudno a Wormhout.”

Er 1988, mae Llandudno wedi’i gefeillio gyda thref Wormhout yng ngogledd Ffrainc. Gefeilliwyd y ddwy dref er mwyn sicrhau na fyddai’r hyn ddigwyddodd yn 1940 cyn Gwacâd Dunkirk yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn mynd yn angof, pan fu i filwyr SS Yr Almaen gipio hyd at 100 o Filwyr Prydeinig, gan gynnwys dynion o Landudno. Cawsant eu cludo i sgubor, La Plaine au Bois ger trefi Wormhout ac Esquelbecq, lle ar yr 28ain o Fai 1940, cafodd 80 ohonynt eu lladd.  
Heddiw, caiff safle’r lladdfa ei gynnal fel safle coffa i’r rhai gafodd eu lladd. Mae Cyngor Tref Llandudno yn cyfrannu at gostau cynnal a chadw’r safle. 

Mae’r Cyngor Tref yn cefnogi ac yn trefnu ymweliadau diwylliannol rhwng Llandudno a Wormhout bob blwyddyn er mwyn caniatáu i aelodau’r cyhoedd fod yn rhan o gymrodoriaeth a chyfeillgarwch gyda’n cyfeillion yn Ffrainc. Mae ymweliadau i Wormhout o Landudno yn cynnwys gwasanaeth ar y safle coffa fel rhan o’r rhaglen er mwyn caniatáu i’r ymwelwyr dalu eu teyrnged. 

Am fwy o wybodaeth ac os hoffech chi fod yn rhan o waith y Pwyllgor Gefeillio Trefi, cysylltwch gyda’r Cyngor Tref drwy e-bost ar deputyclerk@llandudno.gov.uk neu ffoniwch 01492 879130.


Digwyddiadau