Hafan > Digwyddiadau > Dydd Sul Dinesig 2025

Cynhaliodd Maer Llandudno, Cyng. Antony Bertola ei ddathliad Dydd Sul Dinesig ar ddydd Sul, Gorffennaf y 27ain 2025.  Cychwynnodd y dydd gyda Gorymdaith, o dan arweiniad Band Tref Llandudno gan gynnwys y Maer, Cynghorwyr, urddasolion Dinesig, mudiadau milwrol, dinesig a chymunedol, i’r gofeb ryfel i osod torchau. Yna aeth yr Orymdaith rhagddi i Eglwys y Drindod Sanctaidd ar gyfer y Gwasanaeth Dinesig, dan lywydd y Parchedig Vince Morris.  Yn dilyn y Gwasanaeth, cynhaliwyd cinio bwffe yng Ngwesty’r Imperial. Yn ogystal â Chynghorwyr ac urddasolion Dinesig, daeth cynrychiolwyr o nifer o fudiadau gwirfoddol a chymunedol yn Llandudno draw i’r cinio fel gair o ddiolch iddyn nhw am yr holl waith maen nhw’n ymgymryd ag o yn y gymuned drwy gydol y flwyddyn. Estynnodd y Maer groeso i Mrs D Green, Prif Weithredwr Cyngor Ar Bopeth a, Mrs D Roberts, Prif Weithredwr, Mind Conwy fel ei siaradwyr gwadd.


Digwyddiadau