Hafan > Digwyddiadau > Gefeillio Trefi - Wormhout
Ers 1988 mae Llandudno wedi’i gefeillio gyda thref Wormhout yng ngogledd Ffrainc. Sefydlwyd y Gefeillio rhwng y ddwy dref i sicrhau na fyddai’r digwyddiadau o 1940 cyn Gwacáu Dunkirk yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn mynd yn angof. Yn ystod y digwyddiad hwnnw bu i filwyr Almaeneg SS gipio hyd at 100 o filwyr Prydeinig, gan gynnwys dynion o Landudno. Cafodd y dynion eu tywys i ysgubor, La Plaine au Bois ger trefi Wormhout ac Esquelbecq, a chafodd 80 ohonyn nhw eu lladd yno ar Fai’r 28ain 1940.
Heddiw, caiff safle’r gyflafan ei gynnal fel cofeb i’r rheiny a fu farw. Mae Cyngor Tref Llandudno yn cyfrannu tuag at gostau cynnal a chadw’r safle.
Pob blwyddyn, mae’r Cyngor Tref yn mynd ati i gefnogi a threfnu ymweliadau diwylliannol rhwng Llandudno a Wormhout er mwyn i aelodau’r cyhoedd sydd â diddordeb feithrin cyfeillgarwch gydag ein cymheiriaid yn Ffrainc. Fel rhan o’r ymweliadau i Wormhout o Landudno, fe gynhelir gwasanaeth ar y safle coffa er mwyn i’r ymwelwyr allu talu teyrnged.
Teithiau Cyfnewid Gefeillio Trefi
Taith gyfnewid o Wormhout
Mae ychydig dros 50 o bobl o Wormhout yn teithio i Landudno i fwynhau penwythnos o letygarwch gyda theuluoedd croesawu sy’n gwirfoddoli i gynnig llety i’r teuluoedd o Ffrainc yn ystod eu cyfnod yma. Mis Ebrill mae’r ymweliad fel arfer gyda nifer o ymweliadau wedi’u trefnu yn Llandudno a’r fro yn ystod y penwythnos.
Eleni fe gynhaliwyd yr ymweliad ym mis Ebrill. Hon oedd ymweliad cyntaf Maer a Maeres newydd Wormhout, David a Félicie Calcoen, i Landudno. Daeth teuluoedd o Ffrainc, dawnswyr o’r grŵp DBG, aelodau o glwb badminton Wormhout a cherddorion o’r band pres ‘Manicracks’ a’u teuluoedd i Landudno gyda nhw. Ymhlith y gweithgareddau a drefnwyd yn ystod yr ymweliad roedd sesiynau croquet a bowlio yng Nghlwb Bowlio Craig y Don, gweithgareddau crefft maes gyda chadetiaid o’r tri llu cadét yng Nghanolfan Cyn-filwyr Dall Llandudno, taith o dan ddaear o fwynglawdd Tŷ Gwyn ac ymweliad i Lerpwl.
Maer Wormhout yn cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft maes gyda’r cadetiaid.
Aeth Maer Wormhout ati hefyd i osod torch ger cofeb ryfel Llandudno ar y cyd â Maer Llandudno, er mwyn cofio’r rheiny o’r ddwy wlad a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.
Maer Wormhout, David Calcoen a Greg J T Robbins, Maer Llandudno yn gosod torchau ger Cofeb Ryfel Llandudno
Meiri Llandudno a Wormhout, aelodau o Gyngor Wormhout, Llywydd Pwyllgor Gefeillio Wormhout a swyddogion o’r tri llu cadét (llynges, byddin ac awyr)
Taith Pêl-droed Wormhout
Ar ddiwedd Mai pob blwyddyn fel arfer mae tîm o 20 o ddisgyblion o ysgolion cynradd lleol, a’u hathrawon, yn derbyn gwahoddiad i gystadlu yn Nhwrnamaint Pêl-droed Ieuenctid Rhyngwladol Wormhout. Mae cyfle i’r disgyblion gymryd rhan yn y twrnamaint yn ogystal ag ymdrochi yn hanes y dref a’r cyffiniau.
Eleni, yn ogystal â chymryd rhan yn y twrnamaint pêl-droed bu i’r grŵp fwynhau ymweliad i ffatri siocled lle’r oedd cyfle i’r bobl ifanc roi cynnig ar wneud eu siocled eu hunain. Fe wnaethon nhw hefyd chwarae yn erbyn tîm Pêl-droed 11 Wormhout yng ngêm bêl-droed tlws y Magnelwyr Brenhinol ac ymweld â La Plaine au Bois a mynwent Wormhout, lle osodwyd torchau.
Llandudno yn cymryd rhan yn nhwrnamaint pêl-droed 2024
Ar Fai’r 25ain cynhaliwyd gwasanaeth ger cofeb Ryfel Llandudno i goffáu cyflafan Wormhout ar Fai’r 28ain 1940, a gosododd Maer Llandudno, Cyng. Michael Pearce a Chadeirydd Gefeillio Trefi Llandudno, Cyng. Greg J T Robbins dorchau yno.
Seremoni gosod torchau i goffáu cyflafan Wormhout
Ymweliad Gorffennaf i Wormhout
Pob Gorffennaf, caiff ymweliad ei drefnu i Wormhout i gyd-fynd gyda charnifal a gŵyl gerddoriaeth Wormhout, gyda grŵp o 55 o bobl o Landudno yn cymryd rhan. Mae pawb sy’n cymryd rhan yn cyfrannu tuag at gost y daith, gyda theuluoedd croesawu Ffrangeg a Chyngor Tref Wormhout yn cynnig llety yn garedig. Yn ystod yr ymweliad, mae cyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan ddysgu am hanes Wormhout, gan dalu teyrnged i’r rheiny a roddodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn enwedig y rheiny a fu farw yn ystod cyflafan Wormhout ym 1940.
Bu i grŵp o 94 ymweld yn 2024 gan gynnwys Brownies o 12fed Brownies Llandudno, aelodau o Glwb Badminton Stella Maris, a swyddogion a chadetiaid o Luoedd Cadetiaid y Fyddin, Llynges a’r Awyr.
Yn ystod yr ymweliad, gosododd Maer Llandudno, Cyng. Michael Pearce, dorch yn ‘La Plaine au Bois’ i goffáu’r rheiny a roddodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac aeth cadetiaid ati i ffurfio gosgordd er anrhydedd yn safle’r gyflafan. Aeth y Maer hefyd i wasanaeth gosod torchau yn ‘Llandudno Alley’, ar y cyd â Maer Wormhout, Cynghorwyr Wormhout a chyn-filwyr. Trefnwyd ymweliadau i Amgueddfa ac eglwys ‘La Plaine au Bois’, yn nhref gyfagos Esquelbecque, i felin wynt Wormhout ac i Amgueddfa Fort des Dunes, yn Leffrinckoucke, ger Dunkirk. Adeiladwyd Fort des Dunes rhan o’r amddiffynfeydd a godwyd gan Ffrainc yn dilyn eu gorchfygiad yn y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia. Bu’n rhan sylweddol o’r Ail Ryfel Byd. Gosodwyd torch hefyd ger y gofeb ryfel yn Dunkirk.
Meiri Llandudno a Wormhout yn gosod torchau yng nghofeb ryfel y Dref
Maer Llandudno, Cyng. Michael Pearce a Miss Alys, Miss Lilly Cottington
Cadetiaid La Plaine au Bois uchod
12fed Brownies Llandudno ger Cofeb Dunkirk
Os hoffech chi fod ynghlwm â gwaith y Pwyllgor Gefeillio Trefi gan groesawu ambell i ymwelydd o Ffrainc i’ch cartref ac o bosib cymryd rhan yn un o’r ymweliadau blynyddol, cysylltwch gyda Dirprwy Glerc y Dref ar 01492 879130 neu e-bostiwch: deputyclerk@llandudno.gov.uk
GEFEILLIO TREFI – CHAMPÉRY
Mae Llandudno wedi’i gefeillio gyda thref Champéry yn y Swistir yn ogystal. Caiff y Gefeillio ei weinyddu gan Gymdeithas Gefeillio Champéry – Llandudno. Mae’n bwyllgor gweinyddol preifat gydag aelodau annibynnol, aelodau o’r Cyngor Tref, cynrychiolwyr o fusnesau lleol a Twristiaeth Gogledd Cymru gyda chymorth gan Swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Dyma nodau’r Gefeillio:
-
Masnach: Meithrin masnachu rhwng y ddwy dref gyda busnesau lleol yn gallu ymdrin â marchnadoedd newydd a rhannu arfer da.
-
Diwylliannol: Arddangos Bwyd a Diod o’r rhanbarthau, dysgu a deall gwahanol ddiwylliannau gan arwain at gyfeillgarwch hirdymor a mynychu gwyliau diwylliannol. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd ar gyfer teithiau cyfnewid diwylliannol i bobl ifanc.
-
Chwaraeon: teithiau cyfnewid yn ymwneud â llu o wahanol chwaraeon sy’n ymwneud ag oedolion a phobl ifanc ac yn arwain at gyfeillgarwch hirdymor.
Bu’r deuddeg mis diwethaf yn brysur dros ben i’r timau gefeillio yn Llandudno a Champéry gyda sawl digwyddiad wedi’u cynnal a gwaith cynllunio ar gyfer y dyfodol wedi’i gyflawni. Ymysg y digwyddiadau roedd:
Medi-Rhag 2023
Tîm Rhedeg Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn y ras fynydd 13k o amgylch Champéry.
Commune (Cyngor) Champéry yn ymweld â Llandudno.
Cynhadledd Fasnach Ryngwladol y Swistir / y DU a gynhaliwyd gan Faer Llandudno yn Venue Cymru. Bu Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, ASau amrywiol a Llysgennad y Swistir ar ran y DU ynghyd â chynrychiolwyr busnes o Ogledd Cymru a’r Adran Fasnach yn Llundain a Chaerdydd yn bresennol yno.
Llandudno – Plac Gefeillio Champéry wedi’i dadorchuddio yng Nghanolfan Chwaraeon Eira Llandudno.
Ion-Awst 2024
Cynhaliwyd 16eg Pencampwriaethau Sgïo Cymru yn Champéry. Aeth Maer a Maeres Llandudno, Dirprwy Lysgennad y DU ar ran y Swistir ac AS o Gymru i’r digwyddiad.
Hyrwyddo cynnyrch Cymreig yn nigwyddiad Pwysigion Llysgenhadaeth Prydain Berne.
Digwyddiad Wythnos Cymru – Cyflwyniad yn Llysgenhadaeth y Swistir yn Llundain ynghylch y Gefeillio i Bwysigion ac ASau.
Taith feics elusennol Eddie Davies ar gyfer Tŷ Gobaith o Landudno i Champéry drwy Wormhout.
Maer a Maeres Llandudno, Cyng. Michael a Mrs Lyndsey Pearce, Mr Eddie Davies a Cyng. Greg J T Robbins, Cadeirydd Pwyllgor Gefeillio’r Cyngor Tref / Llywydd Gefeillio Trefi Champéry cyn cychwyn y daith feics elusennol.