Hafan > Digwyddiadau > Miss Alice 2025-26

Ar ddydd Sadwrn, Mehefin y 14eg 2025, cynhaliodd Llandudno eu cystadleuaeth Miss Alys blynyddol ac fe ddewiswyd Martha Connell fel y Miss Alys newydd. Roedd croeso i bob merch rhwng 8 a 10 oed sy’n byw yn 5 ward Llandudno gystadlu. Bu i’r Miss Alys oedd yn ymadael, Miss Lilly Cottington longyfarch Martha ar ei phenodiad, ac fe dderbyniodd sash gyda’i theitl arno a gwisg “Miss Alys”. Estynnwyd diolch hefyd i Lilly ar flwyddyn ardderchog fel Miss Alys.

Mae Martha yn 10 mlwydd oed. Mae Martha yn 10 oed. Mae hi'n mwynhau diwrnodau allan gyda'i theulu, chwarae gyda'i ffrindiau, ffilmiau a chwarae gemau cyfrifiadurol. Mae Martha yn edrych ymlaen at gynrychioli Llandudno, cwrdd â phobl newydd a chael hwyl a phrofiadau Newydd. Fel rhan o’i rôl bydd gofyn iddi fynd i ddigwyddiadau Dinesig yng nghwmni’r Maer ac ymweld â mannau y tu hwnt i’r ardal o bryd i’w gilydd er mwyn hyrwyddo Llandudno a’r cysylltiad “Miss Alys”.

Os hoffech chi drefnu bod Miss Alys yn bresennol yn eich digwyddiad chi, cysylltwch gyda Clerc Cynorthwyol ar 01492 879130 neu e-bostiwch:  assistant@llandudno.gov.uk

Miss Alice 2025 - Martha Connell

Digwyddiadau