Hafan > Newyddion > Archif > Neges y Nadolig gan Faer Llandudno
Gyda’r Nadolig yn prysur agosáu, mae hi’n bleser mawr gen i a Loren anfon ein cyfarchion calonnog i bawb yn Llandudno, gan gynnwys y Gogarth, Bae Penrhyn, Ochr y Penrhyn, Ochr y Graig, Glanwydden, Bryn Pydew a Llangwstenin. Boed eich bod yn byw yn ein cymuned, yn gweithio yma neu yn ymweld â’n hardal, dymunwn Nadolig Llawen ichi a Blwyddyn Newydd lewyrchus.
Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn llawn heriau wrth inni barhau i ymateb i bandemig COVID-19. Er gwaethaf hynny, mae llawer o newyddion da wedi bod ddylai wneud inni deimlo’n gadarnhaol ynglŷn â’r dyfodol. Roedd Haf 2021 yn dymor prysur iawn gyda’r holl dwristiaid yn ymweld â’n tref; cafodd noson tân gwyllt Llandudno ei galw’n un o’r rhai gorau yng ngogledd Cymru, gan ddenu 30,000 o ymwelwyr; bu i bobl leol roi yn hael iawn gan wneud Ymgyrch Pabi eleni yr un mwyaf llwyddiannus erioed; mae rhaglen ITV The Pier wedi darlledu darluniau o un o dirnodau mwyaf eiconig Llandudno mewn ystafelloedd byw ledled y byd; a bu ymgais Llandudno yn y gystadleuaeth arddio Prydain yn ei Blodau weld cymunedau lleol yn ennill mwy o wobrau nag erioed o’r blaen. Rydym yn byw mewn cyfnod o ansicrwydd, ond rydw i’n llawn gobaith ar gyfer Llandudno yn 2022.
Yn ogystal â myfyrio ar y flwyddyn sydd wedi mynd heibio, dylem wneud amser i fyfyrio ar stori’r Nadolig a’r gwerthoedd y mae genedigaeth Crist yn ei gynrychioli: heddwch, trugaredd, elusengarwch, ewyllys da i bawb a gobaith ar gyfer y dyfodol. Dyma’r gwerthoedd y gall pobl o bob crefydd, neu yr un grefydd, eu dilyn. Gadewch inni gyd dreulio amser yn meddwl am sut allwn ni ymgorffori’r gwerthoedd hyn yn ein bywydau bob dydd.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.
Cyng. Harry Saville (Maer Llandudno) Miss Loren Lloyd-Pepperell (Maeres)