Hafan > Newyddion > Archif > Rhybudd Cyhoeddus I Gyfethol Swydd Wag
Rhybudd Cyhoeddus I Gyfethol Swydd Wag - Swydd Cynghorydd Tref, Ward Penrhyn, Llandudno
DYMA HYSBYSIAD fod swydd wag ar gyfer Cynghorydd ar gyfer y Gymuned/Ward Llandudno sydd wedi’i nodi uchod, ac mae’r Cyngor Tref yn bwriadu cyfethol.
Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan aelodau’r cyhoedd sy’n bodloni’r gofynion o ran y cymwysterau sydd wedi eu nodi ar yr Hysbysiad ynghlwm ac sydd â diddordeb cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Tref.
Dylai’r rheiny sy’n dymuno inni eu hystyried ar gyfer eu cyfethol ar y Cyngor Tref gyflwyno CV byr (ysgrifenedig neu ar e-bost) ynghyd â datganiad cymhwysedd ar gyfer gweithio fel Cynghorydd, at Glerc y Dref erbyn 5.00yp ar ddydd Mercher Mehefin yr 8fed 2022.
Caiff ymgeiswyr cymwys eu gwahodd i gyflwyno cyflwyniad byr (hyd at 5 munud) ar lafar ynghylch eu bwriadau ar gyfer y Dref a Ward Penrhyn mewn Cyfarfod Arbennig y Cyngor ar ddydd Mercher Mehefin y 15fed 2022 am 7yh yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref Llandudno, gyda dewis hefyd i wneud hynny o bell.
I wybod mwy / am fwy o wybodaeth am y Cyngor, cysylltwch gyda Chlerc y Dref ar y cyfeiriad uchod, ffoniwch 01492 879130, neu e-bostiwch towncouncil@llandudno.gov.uk
Dyddiedig: Mai y 23ain 2022
Tessa Wildermoth, MSc Clerc y Dref / Town Clerk