Hafan > Newyddion > Archif > The Queen’s Platinum Jubilee Beacons and Associated Activities on June 2
Mae Cyngor Tref Llandudno yn falch o fod yn rhan o Ffaglau Jiwbilî Platinwm y Frenhines a’r Gweithgareddau Cysylltiedig ar Fehefin yr 2il, 2022.
Mae Cyngor Tref Llandudno wedi cyhoeddi cynlluniau i oleuo Ffagl ar gyfer Jiwbilî Platinwm y Frenhines ar nos Iau, Mehefin yr 2il 2022.
Mae’r Ffagl ymysg miloedd gaiff eu goleuo ym Mhrydain a’r Gymanwlad, ac mae’n ffurfio rhan o’r rhaglen swyddogol sydd wedi’i gyhoeddi gan Balas Buckingham ar gyfer Penwythnos y Jiwbilî.
Byddwn yn goleuo’r Ffagl yn Y Llwyfan Band, y Promenâd, Llandudno, a bydd ymhlith 2,022 gaiff eu goleuo gan elusennau, cymunedau a grwpiau ffydd ledled Prydain.
At hyn, caiff ffaglau eu goleuo ym mhob un o 54 o brifddinasoedd y Gymanwlad ac fe gaiff y Brif Ffagl ei goleuo mewn seremoni arbennig ym Mhalas Buckingham ar nos Iau. Bydd hyn ar ffurf arddangosiad golau gyda cherflun Canopi Gwyrdd ‘Tree of Trees’ y Frenhines ynghyd â lluniau wedi’u taflunio ar flaen Palas Buckingham. Mae’r ffordd arloesol newydd hon o gymryd rhan yn y dathliadau goleuo ffaglau yn adlewyrchu hanes hir y Teulu Brenhinol yn hyrwyddo achosion amgylcheddol.
Dywedodd Bruno Peek LVO OBE OPR, Pasiantfeistr Ffaglau Jiwbilî Platinwm y Frenhines: “Gan ategu traddodiad maith o oleuo ffaglau i ddathlu dathliadau brenhinol sylweddol, caiff miloedd o ffaglau eu goleuo ledled y Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad. Bydd y digwyddiadau hyn yn fodd i gymunedau uno i dalu teyrnged i’w Mawrhydi’r Frenhines fel rhan o’r gyfres o ddigwyddiadau swyddogol.
“ Am y tro cyntaf erioed, bydd crïwyr tref, pibyddion, chwythwyr corn a chorau ledled Prydain a’r Gymanwlad yn dod ynghyd i ymuno yn y dathliadau yn eu ffordd bersonol ac arbennig eu hunain. Mae’n braf gweld yr ystod o gymorth tuag at oleuo ffaglau, a fyddai’n amlygu amrywioldeb ac undod y genedl a’r Gymanwlad. Mae’r Frenhines wedi cyfoethogi ein bywydau am 70 mlynedd yn sgil ei gwasanaeth ymroddgar a’i hymrwymiad. Hoffem oleuo’r genedl a’r Gymanwlad er anrhydedd iddi.”
Dywedodd Maer Llandudno; “ Mae’n bleser gan y Cyngor Tref ymuno gyda Threfi a Phentrefi ledled Prydain i oleuo ffagl a thalu teyrnged i’w Mawrhydi’r Frenhines ar ei Jiwbilî Platinwm.”
Mae Ffaglau Jiwbilî Platinwm y Frenhines a’r Gweithgareddau Cysylltiedig wedi’u llunio a’u trefnu gan y Pasiantfeistr Bruno Peek a’i dîm ymroddgar.
I wybod mwy, cysylltwch gyda’r Cyngor Tref drwy e-bostio deputyclerk@llandudno.gov.uk neu ffonio 01492 879130
Amserlen ar gyfer goleuo’r Ffaglau
-
O 9.00 yh, bydd Band Tref Llandudno yn chwarae detholiad o gerddoriaeth o’r saith degawd yn ystod teyrnasiad y Frenhines.
-
Am 9.40yh bydd chwythwr corn o Fand y Dref yn cyhoeddi goleuo’r ffaglau’n swyddogol gyda galwad corn arbennig, o’r enw Majesty.
-
Yna am 9.45yh , ac i gyd-daro gyda goleuo’r ffagl gan Faer Llandudno, bydd Miss Anna-Marie Munro yn canu Cân ar gyfer y Gymanwlad, sydd wedi’i hysgrifennu a’i chyfansoddi gan Lucy Keily, o Awstralia a Vincent Atueyi Chinemelu o Nigeria.
-
Yn gynharach yn y dydd am 2.00 yp ger Cofeb Rhyfel Llandudno, bydd Crïwr y Dref, Billy Baxter yn cyhoeddi datganiad arbennig am oleuo’r ffaglau yn hwyrach ymlaen y noson honno.
Gallwch fwrw golwg ar fanylion y digwyddiad a’r rheiny sy’n cymryd rhan yn y Canllaw i Gymryd Rhan ar www.queensjubileebeacons.com