Hafan > Newyddion > Cystadleuaeth Miss Alice 2025 - 2026
Cystadleuaeth Miss Alice yng Ngwlad Hud 2025
Cyfle ichi fod yn Miss Alice Llandudno am flwyddyn!
Bydd enillydd Miss Alice yn derbyn sash gyda'i theitl arno ynghyd â gwisg Miss Alice. Fe fydd hi'n derbyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig a seremonïau gan gynnwys te partis fel Person Pwysig lawn (VIP) Llandudno!
Dydd Sadwrn Mehefin 14 2025
Dyddiad Cau: Dydd Gwener Mai 16
Bag Nwyddau am Ddim ar gyfer yr holl ymgeiswyr
I gystadlu yn y gystadleuaeth, cwblhewch ffurflen gais a'i hafnon at Glerc y Dref, Cyngor Tref Llandudno, Stryd Lloyd, Llandudno cyn ddydd Gwener Mai 16 2025.
*Rydych yn gymwys i geisio os ydych rhwng 8 a 10 oed ar ddydd Sadwrn, Mehefin 14 2025 ac os ydych yn byw yn un o so wardiadu Llandudno: Craigy Don, Gogarth, Mostyn, Penrhyn neu Tudno. Bydd yn rhaid i'r holl gystadleuwyr fod yng nghwmni perthynas iddyn nhw neu oedolyn cyfrifol pan fyddan nhw'n mynd i'r ddyd dewis enillydd.