Hafan > Newyddion > Jiwbilî Platinwm y Frenhines - Cyllid Parti Stryd

Gan ragweld y bydd pobl y dref am gynnal partïon stryd i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines ym mis mehefin 2022, mae Cyngor Tref Llandudno wedi neilltuo swm o arian ar gyfer pum ward y dref (Craig y Don, Gogarth, Mostyn, Penrhyn a Thudno) i’w cynorthwyo i baratoi dathliad ar gyfer yr achlysur arbennig hwn.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydi dydd Gwener y 15ain o Ebrill 2022.

D.S. Cyn anfon cais am arian at Gyngor Tref Llandudno, fe ddylai trefnwyr partïon gysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i wybod am y rheolau a’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni wrth drefnu parti stryd, Partïon Stryd ar y Jiwbilî - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

Gwybodaeth Cyngor Conwy - Partïon Stryd ar y Jiwbilî (Canllaw 4 cam i helpu preswylwyr baratoi dathliadau yn y gymuned ar gyfer y Jiwbilî Platinwm (2-5 Mehefin 2022)

 

Ffurflen Gais am arian ar gyfer partion stryd

 

Logo Dathlu Jiwbilî Platinwm Y Frenhines

Newyddion