Hafan > Newyddion > Llandudno yn cipio’r Wobr Aur!
Yn dilyn llwyddiant Llandudno yn ei Blodau i ennill y wobr Aur yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, mae’n bleser gennym ni gyhoeddi bod Llandudno wedi llwyddo i gipio’r wobr Aur yng Nghategori Arfordirol y gystadleuaeth Prydain yn ei Blodau yn ogystal – cystadleuaeth garddio cymunedol mwyaf y DU. Enwebwyd 44 o grwpiau garddio, a oedd i gyd wedi creu argraff ar eu beirniaid lleol y flwyddyn flaenorol, i gynrychioli eu rhanbarth neu genedl yn Rowndiau Terfynol y DU 2025.
Dywedodd Cadeirydd Llandudno yn ei Blodau, y Cyng. Louise Emery:
“Rydym ar ben ein digon gydag ein gwobr Aur. Roedd yn ymdrech werth chweil gan grwpiau Cyfeillion y Dref i arddangos ein Tref fendigedig. Gan gychwyn ar gopa’r Gogarth a dirwyn i ben ger banc blodau Glanwydden, bu inni ddangos i’r beirniaid ein balchder tuag at ein Tref a’n Cymuned drwy sicrhau ei bod yn lân ac yn wyrdd a drwy gyflwyno ceisiadau llwyddiannus am grantiau cyhoeddus i ailwampio a gwella ein mannau agored.
Hoffem estyn llongyfarchiadau hefyd i Christine Jones o Gyfeillion Sant Tudno a dderbyniodd y wobr Hyrwyddwr Cymunedol am ei hymroddiad a’i gwaith eithriadol yn Eglwys Sant Tudno.
Hoffem ddiolch i’r canlynol: Pwyllgor Llandudno yn ei Blodau, Tîm Parc Gwledig y Gogarth, Cyfeillion Eglwys Sant Tudno, Cyfeillion Y Fach, Cyfeillion Traeth Pen Morfa, Cyfeillion Stryd Mostyn a Chyfeillion Kidz Stryd Mostyn, Eglwys y Drindod Sanctaidd, Cyfeillion Parc y Frenhines, Cyfeillion Prince’s, Cyfeillion Glanwydden, Tafarn y Queens Head ac Ystadau Mostyn a wnaeth i gyd helpu’r Dref i ennill y wobr AUR!”
Gallwch fwrw golwg ar ganlyniadau llawn Prydain yn ei Blodau y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yma.

