Hafan > Digwyddiadau > Archif > Cystadleuaeth Miss Alice 2023 – 2024
Mae’n bleser gan Gyngor Tref Llandudno gyhoeddi eu bod yn bwriadu parhau gyda’u Cystadleuaeth Miss Alice blynyddol eleni. Bydd y gystadleuaeth ar ddydd Sadwrn, Mehefin y 3ydd 2023.
Bydd angen i riant/rhieni neu warchodwr/warchodwyr yr ymgeisydd gydarwyddo’r ffurflenni wedi’u cwblhau gan ddatgan eu bod yn llwyr gefnogi eu plentyn gyda’u cais ac , os bydd eu plentyn yn llwyddiannus gyda’u cais, yn eu cefnogi yn ystod digwyddiadau dilynol.
Caiff yr holl ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i banel beirniadu arbennig ar ddydd Sadwrn, Mehefin y 3ydd yng Nghanolfan Lles Pobl Hŷn, Rhodfa’r Drindod, Llandudno.
Pob lwc gyda’ch ceisiadau.
Ffurflen Gais Miss Alice