Hafan > Digwyddiadau > Archif > Sul Y Cofio 2021

Dydd Sul Y Cofio 2021

Ar Ddydd Sul y 14eg o Dachwedd 2021, bu Gwasanaethau Cofio yn Llandudno ac Ochr y Penrhyn. Roedd Cyngor Tref Llandudno yn falch iawn bod modd cynnal y Gwasanaethau Cofio unwaith eto yn dilyn gorfod eu gohirio oherwydd Covid-19 yn 2020, gyda nifer fawr o bobl yn dod i’r ddau wasanaeth i ddangos eu parch.

Llandudno

Bu i’r diwrnod ddechrau gyda Gwasanaeth yn Eglwys y Drindod, dan arweiniad y Parch. Andrew Sully a Chaplan y Maer, y Parch. Beverley Ramsden. Yn dilyn y Gwasanaeth bu Gorymdaith at y Gofeb Ryfel ar y Promenâd, dan arweiniad Band Tref Llandudno, Maer Llandudno, Cyng. Harry Saville, cynrychiolwyr o’r Llynges Brydeinig Frenhinol, Cynghorwyr Tref, Mr R Millar AS, Mrs J Finch-Saunders, AC, Mr I Lloyd, Is-gadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, staff milwrol, cyn-filwyr, sifiliaid a mudiadau cymunedol. Bu i drigolion ac ymwelwyr yr ardal ymuno â nhw wrth y gofeb ryfel am wasanaeth myfyriol a theimladwy ac i osod y dorch i gofio am y rheiny sydd wedi colli eu bywydau yn gwasanaethu dros eu gwlad.

  • Maer Llandudno harry saville yn gosod torch ar Sul y Cofio
  • Sul coffa yr orymdaith
  • Rhagolwg Dileu Band y dref yn arwain yr orymdaith dydd sul coffa
  • Wynebu'r gofeb rhyfel tra bod yr anthemau cenedlaethol yn cael eu chwarae

Ochr y Penrhyn
Bu gwasanaeth cofio a gosod torch hefyd wrth Gofeb Ryfel Ochr y Penrhyn, dan arweiniad y Parch. J Stone. Yn bresennol yn y gwasanaeth oedd y Dirprwy Faer, Cyng. Miss Carol Marubbi, staff milwrol, aelodau ward Penrhyn, trigolion Penrhyn a grwpiau cymunedol.

  • Cofeb ryfel Ochr Penrhyn

Glanwydden
Bu i’r Maer, Cyng. Harry Saville, y Cyn-Faer, Cyng. Miss Angela O’Grady a Chyng. F Davies, Cadeirydd Dinesig hefyd fynychu Gwasanaeth Cofio yng Nglanwydden wedi’i drefnu gan gymuned Glanwydden ar brynhawn Sul y Cofio.

Gwasanaeth Rhyfel y Boer 
Ar Ddydd Sadwrn y 13eg o Dachwedd 2021, bu i’r Maer, Cyng. Harry Saville fynychu Gwasanaeth Cofio Rhyfel y Boer blynyddol Clwb y Llewod Llandudno yn Eglwys a mynwent Sant Tudno ar y Gogarth. 
 


Archif