Hafan > Digwyddiadau > Arddangosfa Tân Gwyllt 2026

Bydd y digwyddiad eleni am 19:00 (7.00yp) ar ddydd Mawrth, Hydref y 27ain 2026 o Draeth Pen Morfa, Llandudno.

Os ydy’r tywydd yn anffafriol ar y dydd Mawrth, y dyddiad wrthgefn ydy 19:00 (7.00yp) ar ddydd Mercher, Hydref y 28ain 2026. 

Sylwch y bydd y ddau ddyddiad yn amodol ar dywydd ffafriol.

Mae’r digwyddiad hwn ar y traeth yn dibynnu’n fawr ar y llanw, a bydd angen o leiaf un awr ymlaen llaw arnom i osod yr arddangosfa yn ddiogel ar y traeth (oddeutu 150 medr o’r promenâd) ynghyd ag amser addas yn dilyn yr arddangosfa, sy’n para oddeutu 20 munud, i symud y cyfarpar o’r traeth yn ddiogel. Gan hynny, byddwn yn asesu’r llanw a’r amseroedd gweithredu yn ofalus ac yn drylwyr.

Rhain ydy’r dyddiadau agosaf at y 5ed o Dachwedd yn 2026 lle mae amser ac amrediad y llanw yn fwyaf ffafriol ac yn ddiogel i weithredu.

Byddai’r Cyngor yn gwerthfawrogi:

  • Unrhyw roddion ar y noson tuag at yr arddangosfa. Bydd casglwyr ar hyd a lled y promenâd gyda bwcedi casglu rhoddion.
  • Sylwch nad ydym yn caniatáu tân gwyllt (gan gynnwys ffyn gwreichion / sbarclers) ar safle’r digwyddiad.  

I weld y diweddaraf, ewch i dudalen Facebook Llandudno Town Council

Lawrlwytho poster Arddangosfa Tân Gwyllt Llandudno.


Digwyddiadau