Hafan > Digwyddiadau > Diolch i bawb - Gorymdaith Nadolig 2023
Roedd y Cyngor Tref yn falch iawn o gynnal ei Orymdaith Nadolig fawreddog unwaith eto ar Ddydd Sadwrn yr 2il o Ragfyr 2023. Cafodd yr orymdaith, drwy strydoedd Llandudno, ei harwain gan Siôn Corn ar ei sled, gyda Maer a Maeres y dref a Miss Alice y tu ôl. Roedd atyniadau yn cynnwys ACF Corps of Drums a Knights of Snowdon, car carnifal Theatr Colwyn ar thema’r Hen Fam Ŵydd, ystudfachwyr, Brenhines yr Eira, car carnifal Stori’r Geni, corachod yn jyglo yn ogystal â grwpiau pobl ifanc o Landudno.
Daeth torfeydd ynghyd ar Stryd Mostyn a Stryd Lloyd i wylio’r Orymdaith a mwynhau’r adloniant y tu allan i Neuadd y Dref, oedd yn cynnwys Band Tref Llandudno, Theatr Gerddoriaeth Ieuenctid Llandudno, Black Box Entertainment a band teyrnged ABBA. Roedd y goleuadau Nadolig hefyd yn cael eu troi ymlaen wrth Neuadd y Dref gan John Evans, Carley Stenson, Jon Clayton ac aelodau eraill o gast y pantomeim yn Venue Cymru.
Yn dilyn yr Orymdaith roedd perfformiad o Garol y Nadolig gan Charles Dickens y tu allan i Neuadd y Dref a bu i fand Batala Samba hefyd berfformio.
Dywedodd Maer Llandudno, Cyng G J T Robbins “Rwy’n gobeithio ichi gyd fwynhau’r Orymdaith Nadolig eleni a’r adloniant arbennig wrth Neuadd y Dref. Roedd yr ymateb gan y dorf yn anhygoel! Roedd hefyd yn wych gallu cyflwyno Arfbeisiau’r Dref i Mr Samuel Peter, neu y Monkey Man i roi ei enw arall iddo, am roi deg mlynedd o adloniant i’n tref. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r digwyddiad a chroesawu unrhyw un fyddai â diddordeb mewn cymryd rhan yn nigwyddiad y flwyddyn nesaf i gysylltu gyda Neuadd y Dref er mwyn inni ei wneud yn hyd yn oed gwell bob blwyddyn.”
Dywedodd Cadeirydd pwyllgor Gorymdaith y Nadolig, Cyng Antony Bertola, “Mae’r pleser mawr o weld wynebau pobl, yn arbennig wynebau’r plant yn gwneud i dîm y Cyngor Tref a’r trefnwyr deimlo’n falch a diolchgar iawn. Mae’r digwyddiad yn gwneud i’r holl staff sydd ynghlwm a’r digwyddiad, yn ogystal â’r perfformwyr gymerodd ran, deimlo’n falch iawn. Hoffem ni ddiolch i’r cyhoedd am eu holl gefnogaeth a dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. Welwn ni chi'r flwyddyn nesaf.”
Datganiad i'r Wasg (PDF)- sion corn ar ei sled
Sion Corn ar ei sled
- car carnifal theatr colwyn ar thema'r hen fam wydd
Pantomîn mam gwydd Theatr Colwyn yn arnofio
- ystadfachwyr
Perfformiad Stryd
- Maer Llandudno, Cyng G J T Robbins, Maeres, Mrs Debbie Robbins, Miss Alice, Miss Poppy Bowen-Roberts a Sgowtiaid Explorer yng Ngorsaf Rheilffordd Llandudno er mwyn dechrau’r Orymdaith.
Maer Llandudno, Cyng G J T Robbins, Maeres, Mrs Debbie Robbins, Miss Alice, Miss Poppy Bowen-Roberts a Sgowtiaid Explorer yng Ngorsaf Rheilffordd Llandudno er mwyn dechrau’r Orymdaith.
- Band Batala Samba yn perfformio ar Stryd Lloyd.
Band Batala Samba yn perfformio ar Stryd Lloyd.
- Cyflwyno Arfbeisiau’r Dref i Samuel Peters (llun ohono gyda’r Maer a’i wraig Amanda)
Cyflwyno Arfbeisiau’r Dref i Samuel Peters (llun ohono gyda’r Maer a’i wraig Amanda)
- Carol y Nadolig
Carol y Nadolig