Hafan > Digwyddiadau > Gefeillio > Gefeillio Trefi - Wormhout
Ers 1988 mae Llandudno wedi’i gefeillio gyda thref Wormhout yng ngogledd Ffrainc. Sefydlwyd y Gefeillio rhwng y ddwy dref i sicrhau na fyddai’r digwyddiadau o 1940 cyn Gwacáu Dunkirk yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn mynd yn angof. Yn ystod y digwyddiad hwnnw bu i filwyr Almaeneg SS gipio hyd at 100 o filwyr Prydeinig, gan gynnwys dynion o Landudno. Cafodd y dynion eu tywys i ysgubor, La Plaine au Bois ger trefi Wormhout ac Esquelbecq, a chafodd 80 ohonyn nhw eu lladd yno ar Fai’r 28ain 1940.
Heddiw, caiff safle’r gyflafan ei gynnal fel cofeb i’r rheiny a fu farw. Mae Cyngor Tref Llandudno yn cyfrannu tuag at gostau cynnal a chadw’r safle.
Pob blwyddyn, mae’r Cyngor Tref yn mynd ati i gefnogi a threfnu ymweliadau diwylliannol rhwng Llandudno a Wormhout er mwyn i aelodau’r cyhoedd sydd â diddordeb feithrin cyfeillgarwch gydag ein cymheiriaid yn Ffrainc. Fel rhan o’r ymweliadau i Wormhout o Landudno, fe gynhelir gwasanaeth ar y safle coffa er mwyn i’r ymwelwyr allu talu teyrnged.
Teithiau Cyfnewid Gefeillio Trefi
Taith gyfnewid o Wormhout
Mae ychydig dros 50 o bobl o Wormhout yn teithio i Landudno i fwynhau penwythnos o letygarwch gyda theuluoedd croesawu sy’n gwirfoddoli i gynnig llety i’r teuluoedd o Ffrainc yn ystod eu cyfnod yma. Mis Ebrill mae’r ymweliad fel arfer gyda nifer o ymweliadau wedi’u trefnu yn Llandudno a’r fro yn ystod y penwythnos.
Taith Pêl-droed Wormhout
Ar ddiwedd Mai pob blwyddyn fel arfer mae tîm o 20 o ddisgyblion o ysgolion cynradd lleol, a’u hathrawon, yn derbyn gwahoddiad i gystadlu yn Nhwrnamaint Pêl-droed Ieuenctid Rhyngwladol Wormhout. Mae cyfle i’r disgyblion gymryd rhan yn y twrnamaint yn ogystal ag ymdrochi yn hanes y dref a’r cyffiniau.
Ymweliad Gorffennaf i Wormhout
Pob Gorffennaf, caiff ymweliad ei drefnu i Wormhout i gyd-fynd gyda charnifal a gŵyl gerddoriaeth Wormhout, gyda grŵp o 55 o bobl o Landudno yn cymryd rhan. Mae pawb sy’n cymryd rhan yn cyfrannu tuag at gost y daith, gyda theuluoedd croesawu Ffrangeg a Chyngor Tref Wormhout yn cynnig llety yn garedig. Yn ystod yr ymweliad, mae cyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan ddysgu am hanes Wormhout, gan dalu teyrnged i’r rheiny a roddodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn enwedig y rheiny a fu farw yn ystod cyflafan Wormhout ym 1940.
Os hoffech chi fod ynghlwm â gwaith y Pwyllgor Gefeillio Trefi gan groesawu ambell i ymwelydd o Ffrainc i’ch cartref ac o bosib cymryd rhan yn un o’r ymweliadau blynyddol, cysylltwch gyda Dirprwy Glerc y Dref ar 01492 879130 neu e-bostiwch: deputyclerk@llandudno.gov.uk
Gefeillio Trefi – Champéry
Mae Llandudno wedi’i gefeillio gyda thref Champéry yn y Swistir yn ogystal. Caiff y Gefeillio ei weinyddu gan Gymdeithas Gefeillio Champéry – Llandudno. Mae’n bwyllgor gweinyddol preifat gydag aelodau annibynnol, aelodau o’r Cyngor Tref, cynrychiolwyr o fusnesau lleol a Twristiaeth Gogledd Cymru gyda chymorth gan Swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Dyma nodau’r Gefeillio:
-
Masnach: Meithrin masnachu rhwng y ddwy dref gyda busnesau lleol yn gallu ymdrin â marchnadoedd newydd a rhannu arfer da.
-
Diwylliannol: Arddangos Bwyd a Diod o’r rhanbarthau, dysgu a deall gwahanol ddiwylliannau gan arwain at gyfeillgarwch hirdymor a mynychu gwyliau diwylliannol. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd ar gyfer teithiau cyfnewid diwylliannol i bobl ifanc.
-
Chwaraeon: teithiau cyfnewid yn ymwneud â llu o wahanol chwaraeon sy’n ymwneud ag oedolion a phobl ifanc ac yn arwain at gyfeillgarwch hirdymor.

