Hafan > Digwyddiadau > Sul y Cofio
Ar ddydd Sul, Tachwedd y 9fed 2025, cynhaliwyd Gwasanaethau Sul y Cofio yn Llandudno ac Ochr Penrhyn.
Llandudno
Dechreuodd y diwrnod gyda Gwasanaeth yn Eglwys y Drindod, o dan arweiniad y Parchedig Vince Morris a Chaplan y Lleng Brydeinig Frenhinol, Parchedig Ganon Philip Barratt OC. Yn dilyn y Gwasanaeth bu Gorymdaith i’r Gofeb Ryfel ar y Promenâd, gyda Band Tref Llandudno, Maer Llandudno, Cyng. Antony Bertola, cynrychiolwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol, Cynghorwyr Tref, Mrs J Finch-Saunders, MS, Cyng Amanda Hawkins yn cynrychioli Claire Hughes, AS, Cyng Harry Saville, yn cynrychioli Cadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gweithwyr milwrol sy’n gwasanaethu gan gynnwys Capten y Grŵp Gez Currie OBE MA RAF Llu Awyr Brenhinol y Fali, Uwchgapten Eirian Davies, Catrawd Feddygol Aml-Rôl 203 (y Meddygon Cymreig), vcyn-filwyr, sefyliadau sifil a chymunedol. Ymunodd preswylwyr ac ymwelwyr â nhw ger y gofeb ryfel ar gyfer gwasanaeth myfyriol a theimladwy ac i osod torchau er cof am y rheiny bu farw wrth wasanaethu eu gwlad.
Ochr Penrhyn
Cynhaliwyd gwasanaeth coffáu a gosod torchau ger Cofeb Ryfel Ochr Penrhyn hefyd, o dan arweiniad y Gweinidog Lleyg, Mr Alan McKinnell. Daeth y Dirprwy Faer, Cyng. Thomas Montgomery, Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog ac Aelodau Mudiadau Gwirfoddol Lleol, aelodau ward Penrhyn, preswylwyr Penrhyn a grwpiau cymunedol i’r Gwasanaeth.
Diwrnod y Cadoediad
Ar Ddiwrnod y Cadoediad, Tachwedd yr 11eg 2025, cynhaliwyd Seremoni Goffáu ger Cofeb Ryfel Llandudno, o dan arweiniad y Parchedig Ganon Philip Barratt OC, a chynrychiolydd o’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Cynhaliwyd dau funud o ddistawrwydd am 11yb a gosodwyd y torchau. Cafwyd anerchiad hefyd gan y Cyng. Antony Bertola, Maer Llandudno.






