Hafan > Digwyddiadau > Tan Gwyllt 2024
Roedd yn bleser o’r mwyaf gan Gyngor Tref Llandudno gynnal eu harddangosfa tân gwyllt anhygoel ar ddydd Sul, Tachwedd y 3ydd 2024, ar draeth y Gogledd Llandudno. Daeth torfeydd ynghyd ar hyd y Promenâd o’r Pier tuag at Graig y Don i wylio’r arddangosfa arbennig.
Dywedodd Maer Llandudno, y Cyng. M A Pearce “Rwy’n gobeithio bod pawb wedi mwynhau’r arddangosfa tân gwyllt wych eleni. Roedd yr arddangosfa orau a welsom erioed ac roedd ymateb y torfeydd yn anhygoel. Hoffwn ddiolch i bawb oedd ynghlwm am eu gwaith caled i gynnal digwyddiad mor llwyddiannus”
Dywedodd y Cyng. Carol Marubbi, Cadeirydd Is-bwyllgor Tân Gwyllt y Cyngor Tref “Ar ran y Cyngor Tref, hoffwn ddiolch i’r Cynghorwyr, staff y Cyngor Tref, y casglwyr gwirfoddol, timau Digwyddiadau a’r Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a phawb oedd ynghlwm am gynnal arddangosfa mor wych. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Adam Williams o Pier Llandudno am ei gymorth hael drwy gynnig yr holl beiriannau a’r gweithwyr i allu cynnal y digwyddiad ac i Ignite Pyrotechnics am gynnal sioe mor ardderchog. Buasai’n amhosibl cynnal y digwyddiad blynyddol sylweddol hwn heb fod yr holl randdeiliaid yn cydweithio gyda’i gilydd.”
Hoffem estyn diolch i’r cyhoedd am ddod i gefnogi’r digwyddiad sylweddol hwn unwaith eto.