Hafan > Digwyddiadau > Tân Gwyllt Llandudno – Noson Werth Chweil
Unwaith eto, roedd yn bleser gan Gyngor Tref Llandudno gynnal ei arddangosfa tân gwyllt flynyddol arbennig ar nos Iau, Hydref y 27ain 2026, ar Draeth y Gogledd Llandudno. Braf oedd gweld miloedd o bobl wedi ymgynnull ar hyd y Promenâd, o’r Pier i Graig y Don, i fwynhau sioe anhygoel a wnaeth oleuo awyr y nos a chreu awyrgylch gwerth chweil ledled y dref.
Wrth gwrs mae trefnu digwyddiad ar fath raddfa yn gofyn am waith cynllunio, cydlynu a chydweithio sylweddol, yn enwedig wrth ddwyn i ystyriaeth yr heriau ychwanegol o ran y llanw, mynediad i’r traeth a diogelwch y cyhoedd. Heb os, mae llwyddiant y digwyddiad eleni yn dyst i waith partneriaeth, haelioni ac ymroddiad pawb sydd ynghlwm.
Dywedodd Maer Llandudno, Cyng. Mandy Hawkins:
“Roedd hi’n fendigedig gweld cymaint o bobl yn dod ynghyd ar gyfer sioe tân gwyllt Llandudno a mwynhau awyrgylch mor werth chweil ledled y dref.
“Roeddwn i wrth fy modd yn clywed cymaint o bobl yn dweud mai dyma un o’r arddangosfeydd gorau maen nhw wedi’i gweld erioed. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth weithio mor galed y tu ôl i’r llenni, ein noddwyr, gwirfoddolwyr a chasglwyr, ac, wrth gwrs pawb a ddaeth draw gan sicrhau bod y noson yn llwyddiant mor ysgubol. Roedd Llandudno yn falch dros ben o’r noson ac roedd yn enghraifft wych o’n cymuned yn dod ynghyd.”
Ychwanegodd y Cyng. Carol Marubbi, Cadeirydd Is-bwyllgor Tân Gwyllt y Cyngor Tref:
“Waw, am arddangosfa anhygoel! Ar ran y Cyngor Tref, hoffwn estyn fy niolch diffuant i bawb a wnaeth helpu i ofalu bod y digwyddiad yn llwyddiant mor aruthrol.
“Hoffwn ddiolch i fy nghyd-gynghorwyr, staff y Cyngor Tref, ein casglwyr gwirfoddol, timau Digwyddiadau a’r Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a phawb a wnaeth roi o’u hamser i drefnu’r noson.
“Hoffwn estyn diolch arbennig i Adam Williams a’i dîm yn Pier Llandudno am eu cymorth hael dros ben, yn darparu’r peiriannau a’r gweithlu a oedd yn hanfodol er mwyn cynnal y digwyddiad. At hyn, hoffwn ddiolch i Ignite Pyrotechnics am gynnal arddangosfa mor drawiadol a phroffesiynol unwaith eto, gan oleuo’r awyr uwchben Llandudno a chreu golygfeydd godidog. Heb os, mae’r ychwanegiadau annisgwyl yn ystod y diweddglo bob amser yn uchafbwynt, ac yn sicr ni chawsom ein siomi eleni!
“Er mwyn cynnal digwyddiadau o’r raddfa hon, mae’n rhaid dibynnu ar ymroddiad, haelioni a chydweithrediad nifer o unigolion a mudiadau sy’n cydweithio y tu ôl i’r llenni. Dyma’r bartneriaeth anhygoel sy’n fodd inni barhau i gynnal digwyddiad blynyddol mor arbennig ar gyfer ein cymuned.
“Diolch yn fawr iawn am eich holl waith caled, eich cymorth a’ch cyfraniad.”
Hoffai Cyngor Tref Llandudno estyn diolch hefyd i’r cyhoedd am eu cymorth arbennig ac am ddod draw yn eu heidiau i fwynhau’r digwyddiad blynyddol hynod boblogaidd hwn.
Eleni, roeddem yn canolbwyntio mwy ar godi arian, ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod ni, hyd yma, wedi llwyddo i godi ychydig o dan £6,500 drwy gasgliadau cyhoeddus a nawdd.
Heb os mae hyn yn llwyddiant aruthrol ac yn adlewyrchiad o haelioni ac ysbryd cymunedol Llandudno. Mae pob cyfraniad, mawr neu fach, yn ein helpu i barhau i gynnal y digwyddiad arbennig hwn, ac rydym yn ddiolchgar dros ben i bawb sydd wedi cyfrannu, noddi neu wedi cynnig eu hamser yn wirfoddol.
Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth ofalu bod noson tân gwyllt eleni yn noson mor fythgofiadwy. Gyda’n gilydd, fe wnaethom lwyddo i gynnal noson fendigedig arall ar gyfer Llandudno!
- Torfan o bobl yn aros i'r tân gwyllt ddechrau
- Trelar yn llawn tân gwyllt yn cyrraedd Llandudno
- Arddangosfa tân gwyllt ar y promenâd yn Llandudno
- Tanau gwyllt mawr yn ffrwydro yn yr awyr uwchben Llandudno
- Arddangosfa tân gwyllt yn Llandudno
- Tanweithiau mawr yn yr awyr uwchben y môr
- Tanau gwyllt yn llenwi'r awyr
- grŵp o 6 o bobl yn sefyll o flaen faniau









