Hafan > Digwyddiadau > Tân Gwyllt > Tân Gwyllt 2023

Bydd y digwyddiad eleni am 17:30 (5.30yp) ar ddydd Sul, Hydref y 29ain 2023 o Draeth Pen Morfa, Llandudno.

Os ydy’r tywydd yn anffafriol ar y dydd Sul, y dyddiad wrthgefn ydy 17:45 (5.45yp) ar ddydd Llun, Hydref y 30ain 2023  

Sylwch y bydd y ddau ddyddiad yn amodol ar dywydd ffafriol.

Mae’r digwyddiad hwn ar y traeth yn dibynnu’n fawr ar y llanw, a bydd angen o leiaf un awr ymlaen llaw arnom i osod yr arddangosfa yn ddiogel ar y traeth (oddeutu 150 medr o’r promenâd) ynghyd ag amser addas yn dilyn yr arddangosfa, sy’n para oddeutu 20 munud, i symud y cyfarpar o’r traeth yn ddiogel. Gan hynny, byddwn yn asesu’r llanw a’r amseroedd gweithredu yn ofalus ac yn drylwyr.

Rhain ydy’r dyddiadau agosaf at y 5ed o Dachwedd yn 2023 lle mae amser ac amrediad y llanw yn fwyaf ffafriol ac yn ddiogel i weithredu.
Byddai’r Cyngor yn gwerthfawrogi:

  • Unrhyw roddion ar y noson tuag at yr arddangosfa. Bydd casglwyr ar hyd a lled y promenâd gyda bwcedi casglu rhoddion.
  • Sylwch nad ydym yn caniatáu tân gwyllt (gan gynnwys ffyn gwreichion / sbarclers) ar safle’r digwyddiad.  

I weld y diweddaraf, ewch i dudalen Facebook y Digwyddiad Tân Gwyllt (dolen)

Fireworks Press Release

Poster Tân Gwyllt


Tân Gwyllt