Hafan > Newyddion > Archif > Fideos codi ymwybyddiaeth Cynghorwyr Cymuned a Thref
Mae Un Llais Cymru - gyda chymorth Llywodraeth Cymru - wedi cyhoeddi fideo i hyrwyddo ac annog unigolion i gyflwyno eu henwau yn ymgeisyddion ar gyfer etholiadau cynghorau cymuned a thref a gynhelir ym mis Mai 2022. Mae’r fideo sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg yma:
Cymraeg Hafan - One Voice Wales - Welsh (unllaiscymru.org.uk)
Saesneg Home - One Voice Wales
Mae’r fideo yn:
- Codi ymwybyddiaeth o rôl a chyfraniad cynghorwyr cymuned a thref i gymdeithas
- Nodi sut mae cynghorwyr cymuned a thref mewn sefyllfa dda i wybod beth yw blaenoriaethau ac anghenion eu hardal leol a sut all cynghorau gydweithio gyda phartneriaid lleol i greu newid cadarnhaol
- Nodi pwysigrwydd amrywiaeth mewn llywodraeth leol
- Tynnu sylw at yr heriau y mae cynghorwyr yn eu hwynebu a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt e.e. trwy raglenni hyfforddiant a drefnir gan Un Llais Cymru
- Amlinellu’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y maent wedi’u meithrin trwy eu rôl a sut ellir eu defnyddio mewn agweddau eraill ar fywyd a gwaith, gorfod cyfarwyddo a deall nifer o faterion anghyfarwydd a chael gwell dealltwriaeth o sut mae democratiaeth leol yn gweithio
- Cyfleu bod gan bawb sgiliau y gallent eu cynnig i rôl Cynghorydd o’u bywyd bob dydd e.e. trefnu, cyfathrebu, datrys problemau ac ati