Hafan > Newyddion > Archif > Neges Nadolig gan Faer Llandudno
NEGES NADOLIG GAN FAER LLANDUDNO
Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, rydym yn mynd ati i fyfyrio am y gorffennol ac edrych ymlaen tua’r dyfodol. Rydym yn meddwl am yr amser rydym wedi’i dreulio gydag ein teulu ac ein ffrindiau a’r rhai nad ydyn nhw gyda ni mwyach yn anffodus. Mae’n adeg i obeithio am y dyfodol, er gwaethaf y caledi a’r anawsterau y mae sawl un yn eu hwynebu am wahanol resymau a’r dioddefaint a’r anghyfiawnder sy’n cystuddio ein byd. Mae’n adeg i estyn llaw i’r rheiny o’n cwmpas ac i helpu’r rheiny y gallwn ni mewn unrhyw ffordd posibl er gwaethaf unrhyw wahaniaethau sydd rhyngom ni.
Hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Heddychlon a Llewyrchus ichi.
Cyng Greg J T Robbins a Mrs Debbie Robbins, Maer a Maeres Llandudno