Hafan > Newyddion > Archif > Nofio Noddedig Maer Llandudno 2026
Gwnewch Donnau. Cefnogwch yn Lleol. Neidiwch i Mewn.
Dydd Sadwrn 28 Mawrth a Dydd Sul 29 Mawrth 2026
12:00pm – 4:00pm
Canolfan Nofio Llandudno
Mae Maer Llandudno, y Cynghorydd Antony Bertola, yn mynd amdani ar gyfer achos pwerus - ac mae gwahoddiad i CHI ymuno!
Am ddau brynhawn ysbrydoledig, bydd lôn ddynodedig yng Nghanolfan Nofio Llandudno yn agor ar gyfer Nofio Noddedig y Maer, ac mae croeso i bawb neidio i mewn, nofio cymaint â hoffent, a chyfrannu beth bynnag y gallwch. Nid oes ffi mynediad yn ystod y digwyddiad - yr oll rydych ei angen ydi egni, brwdfrydedd ac ysbryd cymunedol!
Pam ein bod ni’n Nofio
Mae nofio’n fwy nac ymarfer corff - mae’n sgil achub bywyd, ffynhonnell o hyder a llwybr tuag at gyfleoedd. Dewch draw i gefnogi’r digwyddiad codi arian.
Eleni, rydym yn falch o gefnogi:
MIND Conwy
Elusen iechyd meddwl arweiniol sy’n sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un wynebu problemau iechyd meddwl ar eu pennau eu hunain. Gyda’n gilydd, rydym yn cydnabod y cysylltiad pwerus rhwng gweithgarwch corfforol a lles meddyliol, gan ddefnyddio nofio i adeiladu hyder, cymuned a gwydnwch.
Cyngor ar Bopeth
Elusen annibynnol yn darparu cyngor cyfrinachol, am ddim i’r rhai sy’n wynebu heriau gyda dyledion, tai, cyflogaeth, budd-daliadau a mwy. Mae nofio’n cynrychioli gwydnwch, penderfyniad a chynnydd - gwerthoedd sy’n cyd-fynd yn berffaith gyda’u cenhadaeth i rymuso a chefnogi unigolion mewn amser o angen.
Wedi’i Gefnogi gan Ffit Conwy
Rydym yn falch bod Ffit Conwy yn cefnogi’r digwyddiad hwn, gan ei wneud yn bosibl i gyfranogwyr nofio a chyfrannu heb dalu i ddefnyddio’r pwll yn ystod oriau’r digwyddiad. *Sylwch mai dim ond unigolion sydd wedi cofrestru i gwblhau’r nofio noddedig a fydd yn derbyn mynediad am ddim i’r safle a bydd angen iddynt fewngofnodi.
Sut y Gallwch Chi Gymryd Rhan
-
Nofiwch 2 hyd y pwll neu 200 - mae pob strôc yn cyfrif
-
Dewch a ffrindiau, teulu, cydweithwyr
-
Dewch a chyfraniad ar gyfer y bwced casgliadau ar y diwrnod
-
Cefnogwch ar ochr y pwll
-
Helpwch i ledaenu’r gair
Mae pob cyfraniad - bach neu fawr - yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Dewch i ni fynd i’r pwll, llenwi’r lôn, a dangos beth all Llandudno ei gyflawni pan ddown ni oll ynghyd.

