Hafan > Newyddion > Arddangosfa Tân Gwyllt 2025

Bydd y digwyddiad eleni am 18:30 (6.30yp) ar ddydd Gwener, Tachwedd y 7fed 2025 o Draeth Pen Morfa, Llandudno.

Os ydy’r tywydd yn anffafriol ar y dydd Gwener, y dyddiad wrthgefn ydy 18:30 (6.30yp) ar ddydd Sadwrn, Tachwedd y 8fed 2025.  

Sylwch y bydd y ddau ddyddiad yn amodol ar dywydd ffafriol.

Mae’r digwyddiad hwn ar y traeth yn dibynnu’n fawr ar y llanw, a bydd angen o leiaf un awr ymlaen llaw arnom i osod yr arddangosfa yn ddiogel ar y traeth (oddeutu 150 medr o’r promenâd) ynghyd ag amser addas yn dilyn yr arddangosfa, sy’n para oddeutu 20 munud, i symud y cyfarpar o’r traeth yn ddiogel. Gan hynny, byddwn yn asesu’r llanw a’r amseroedd gweithredu yn ofalus ac yn drylwyr.

Rhain ydy’r dyddiadau agosaf at y 5ed o Dachwedd yn 2025 lle mae amser ac amrediad y llanw yn fwyaf ffafriol ac yn ddiogel i weithredu.

Byddai’r Cyngor yn gwerthfawrogi: 

  • Unrhyw roddion ar y noson tuag at yr arddangosfa. Bydd casglwyr ar hyd a lled y promenâd gyda bwcedi casglu rhoddion. 
  • Sylwch nad ydym yn caniatáu tân gwyllt (gan gynnwys ffyn gwreichion / sbarclers) ar safle’r digwyddiad. 

I weld y diweddaraf, ewch i dudalen Facebook Llandudno Town Council

Cliciwch yma i lawr lwytho poster Arddangosfa Tân Gwyllt Llandudno


Newyddion