Hafan > Newyddion > Canlyniadau Llandudno yn ei Blodau 2025
Canlyniadau Llandudno yn ei Blodau 2025
Roedd Maer Llandudno, y Cyng. Antony Bertola ar ben ei ddigon o gyflwyno tystysgrifau a chwpanau/tarianau i gystadleuwyr ac enillwyr cystadleuaeth Llandudno yn ei Blodau eleni yn y Seremoni Wobrwyo ar Fedi’r 23ain 2025.
Cafodd y canlynol eu cyhoeddi yn y Seremoni Wobrwyo yn ogystal:
Enillydd Cyffredinol ar gyfer 2025 – Gwesty Mostyn
Gardd Orau Cyffredinol – Mr Alan Smith a Ms Suzanne Keegin
Gardd Orau yn Ward y Maer (Craig y Don) – Tŷ Preswyl Moorcroft
Llongyfarchiadau i bawb wnaeth gystadlu eleni.
Cliciwch ar y ddolen am ganlyniadau cystadleuaeth eleni.
Roedd y beirniaid wedi’u plesio’n fawr gyda safon y cystadleuwyr a bydd enillwyr y categorïau yn derbyn eu tystysgrifau a’u cwpanau/tariannau gan Faer Llandudno, Cyng Antony Bertola, mewn Seremoni Wobrwyo ar Fedi 23ain, 2025. Caiff Enillydd yr Ardd Orau Oll, Gardd Orau yn Ward y Maer ac Enillydd Cyfan 2025 eu cyhoeddi yn y seremoni.
Dymuna’r Pwyllgor ddiolch i’r holl gystadleuwyr a gymerodd ran a gobeithiwn y byddwch yn cystadlu unwaith eto y flwyddyn nesaf.
Am fwy o wybodaeth
Ebost: assistant@llandudno.gov.uk
Ffôn: 01492 879130 (10yb - 3yp Dydd Llun – Dydd Gwener)




