Hafan > Newyddion > Cyfethol Dau Gynghorydd Newydd i Gyngor Tref Llandudno

Mae’n bleser gan Gyngor Tref Llandudno groesawu dau gynghorydd newydd yn dilyn eu penodiad drwy broses cyfethol y Cyngor.

Penodwyd y Cynghorydd Andrea Carri i gynrychioli Ward Tudno, tra bod y Cynghorydd Rodney Davies wedi’i benodi i gynrychioli Ward Gogarth.   

Mae’r cynghorwyr newydd hyn yn llenwi’r swyddi gwag presennol ar y Cyngor Tref, gan sicrhau bod trigolion yn y ddwy ward yn parhau i gael cynrychiolaeth leol gref.

Mae’r Cyngor yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Cynghorwyr Carri a Davies wrth iddyn nhw gychwyn arni gyda’u rolau a chyfrannu tuag at waith y Cyngor ar ran y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.  

Dywedodd Maer Llandudno, y Cynghorydd Mandy Hawkins:

“Ar ran Cyngor Tref Llandudno, pleser o’r mwyaf yw croesawu’r Cynghorydd Andrea Carri a’r Cynghorydd Rodney Davies. Yn wir mae’r ddau gynghorydd yn cynnig profiad gwerthfawr ac ymrwymiad i wasanaethu eu cymunedau lleol. Mae’r aelodau a minnau yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw wrth iddyn nhw gynrychioli preswylwyr wardiau Tudno a Gogarth. Dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw yn eu rolau newydd a diolch yn fawr iawn iddyn nhw am eu parodrwydd i wasanaethu ein cymuned.”

Bydd y Cynghorwyr Carri a Davies yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd Cyngor Tref yn y dyfodol ac yn cydweithio gyda chyd-gynghorwyr ar faterion sy’n effeithio ar Landudno a’i phreswylwyr.


Newyddion