Hafan > Newyddion > Datganiad i’r Wasg Am Y Sioe Tân Gwyllt 2025

Sioe Tân Gwyllt Cyngor Tref Llandudno 2025

Roedd yn bleser gan Gyngor Tref Llandudno gynnal eu sioe tân gwyllt blynyddol arbennig unwaith eto ar ddydd Gwener, Tachwedd y 7fed 2025, ar Draeth Y Gogledd Llandudno. Daeth torfeydd ynghyd ar hyd y Promenâd o’r Pier at Graig y Don i fwynhau’r sioe anhygoel a oleuodd awyr y nos.  

Dywedodd Maer Llandudno, y Cyng. Antony Bertola:
“Rwy’n gobeithio bod pawb wedi mwynhau’r sioe tân gwyllt ysblennydd eleni. Cafwyd ymateb arbennig gan y torfeydd wedi i’r sioe ddod i ben! Hoffwn estyn diolch i bawb oedd ynghlwm am eu holl waith diflino yn trefnu digwyddiad mor llwyddiannus ac i’r holl wirfoddolwyr yn ogystal am gynorthwyo gyda chodi arian yn eu bwcedi. Bu i’r digwyddiad hwn, ynghyd â Sul y Cofio arddangos Llandudno ar ei gorau.”  

Ychwanegodd y Cyng. Carol Marubbi, Cadeirydd Is-bwyllgor Tân Gwyllt y Cyngor Tref:

“Wel, am sioe! Ar ran y Cyngor Tref, hoffwn ddiolch i’r Cynghorwyr, staff y Cyngor Tref, y casglwyr gwirfoddol, Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a thimau Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, ac i bawb arall oedd ynghlwm am gynnal sioe mor wych. Diolch yn arbennig i Adam Williams o Bier Llandudno am ei gyfraniad hael yn darparu’r holl beiriannau a’r gweithlu i allu cynnal y digwyddiad, ac i Ignite Pyrotechnics am ddylunio sioe mor werth chweil unwaith eto. Byddai’n amhosibl cynnal y digwyddiad sylweddol blynyddol hwn heb i’r holl randdeiliaid fwrw iddi i gydweithio. Diolch yn fawr ichi i gyd”.

Hoffai Cyngor Tref Llandudno hefyd ddiolch i aelodau’r cyhoedd am ddod i gefnogi’r digwyddiad tra phoblogaidd hwn. Roedd pwyslais cryf ar godi arian eleni, ac mae’n falch iawn gan y Cyngor adrodd eu bod wedi llwyddo i godi oddeutu £5,500 drwy gasgliadau ac arian nawdd.


Newyddion