Hafan > Newyddion > Digwyddiadau i gynnig cymorth a chyngor ar gynnydd mewn costau byw
Mae sefydliadau yn dod ynghyd i gynnal dau ddigwyddiad yn Sir Conwy er mwyn cynnig cyngor i drigolion i helpu delio â’r cynnydd mewn costau byw.
Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal yng Nglasdir, Llanrwst ar Ddydd Mawrth 6 Rhagfyr o 1pm-5pm, ac yng Nghoed Pella, Bae Colwyn ar Ddydd Mawrth 13 Rhagfyr o 10am-2pm.
Bydd staff o dimoedd hawliau lles, tai, lles cymunedol, hamdden, canolfannau i deuluoedd a llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yno. Hefyd bydd amryw o sefydliadau yn mynychu a all gynnig cyngor am reoli biliau a chyllid, cynhesu eich cartref a chadw’n gynnes, diogelwch, hyfforddiant a chyflogaeth.
Yn mynychu’r digwyddiadau fydd: Canolbwynt Cyflogaeth Conwy, Cymru Gynnes, Nyth, Cyngor ar Bopeth, Undeb Credyd Cambrian, Dŵr Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
