Hafan > Newyddion > Goleuo Ffagl i goffau 80 mlynedd ers D-Day

Ar ddydd Iau, Mehefin y 6ed bu i Gyngor Tref Llandudno ymuno gyda Threfi a Dinasoedd eraill ledled y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau Tramor y DU, gan oleuo ffagl i goffau’r degau o filoedd o luoedd y cynghreiriaid wnaeth gynnig eu gwasanaeth ar D-DAY wyth deg mlynedd yn ôl ac a wnaeth helpu i sicrhau’r heddwch yr ydym ni yma yn y DU yn ei fwynhau heddiw.

Daeth torfeydd o bobl ifanc a hen i wylio Maer Llandudno, y Cyng. Michael Pearce, yn goleuo’r ffagl, gan gynnwys cynfilwyr, plant ysgol, a chadlanciau a swyddogion o’r Llynges, y Fyddin a’r Cadlanciau Awyr. Bu i bibydd groesawu pawb i’r digwyddiad. Roedd Band Tref Llandudno yn bresennol hefyd gan chwarae detholiad o gerddoriaeth o gyfnod yr 2il Ryfel Byd a bu i ddisgyblion o Ysgol John Bright a chadlanciau o bob llu cadét ddarllen cerdd a oedd yn egluro digwyddiadau D-Day drwy gyfrwng y Saesneg a’r Gymraeg. Bu i fiwglwr chwarae Last Post cyn cynnal munud o dawelwch ac yna Reveille. Chwaraeodd y pibydd “Flowers of the Forest” cyn i’r Maer fwrw iddi i oleuo’r ffagl. At hyn, bu i’r bardd Angela Parker adrodd ei cherdd deimladwy am yr Ail Ryfel Byd ‘Six Years of your Lifetime’.  Daeth y noson i ben gan ganu’r Anthemau Cenedlaethol ac yna “We’ll Meet Again” y Fonesig Vera Lyn gan y gantores Anna Marie Munro.

Dywedodd Maer Llandudno, y Cyng. Michael Pearce “Mae’n hollbwysig ein bod ni’n cofio’r aberthau a wnaed yn ystod yr Ail Ryfel Byd i ddiogelu ein dyfodol ac fe hoffwn estyn diolch i bawb wnaeth gymryd rhan yn y digwyddiad a phawb a ddaeth i wylio. Roedd yn bleser gweld cymaint o bobl yn coffau’r digwyddiad pwysig hwn gyda’i gilydd”

Yn gynharach y diwrnod hwnnw, bu i’r Cyngor Tref gynnal gwasanaeth byr ar y Promenâd er mwyn codi baner D-Day 80 arbennig.

 

  • Maer Llandudno, Cyng. Michael Pearce yn goleuo ffagl D-Day 80
  • Y Maer a’r gwestai yn y digwyddiad goleuo’r ffagl D-Day 80
  • Gwasanaeth codi baner D-Day 80

Newyddion