Hafan > Newyddion > Gorymdaith Nadolig Llandudno 2026
Mae’n bleser gan y Cyngor Tref gyhoeddi y bydd eu Gorymdaith Nadolig arbennig yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr y 5ed 2026.
Bydd adloniant cyn yr orymdaith yn dechrau y tu allan i Neuadd y Dref am 2:15yp, gan gynnwys:
- Band Tref Llandudno
- Ysgol Ddawns Linzi Grace
- Theatr Gerddoriaeth Ieuenctid Llandudno
- Academi Dawnsio gyda Cinti
- Canu carolau gan Ysgol Ffordd Dyffryn
- Academi Cerddoriaeth a Drama Gogledd Cymru
- Neges Nadolig gan y Parchedig Morris
Ymunwch â ni y tu blaen i Orsaf Drenau Llandudno am 3:20yp, lle bydd y Band Batala Samba gwych yn dechrau’r dathliadau gyda’u rhythmau llawn cyffro ac egni a’u curiadau heintus!
Bydd yr orymdaith yn gadael Gorsaf Drenau Llandudno am 4:00yp ac yna’n teithio drwy strydoedd Llandudno, ar hyd Stryd Vaughan, Stryd Mostyn, heibio Neuadd y Dref yn Stryd Lloyd, ac i lawr Stryd Madog cyn dychwelyd i’r Orsaf.
Bydd Corfflu Drymiau Marchogion yr Wyddfa yn arwain yr Orymdaith, a Siôn Corn ar ei sled yn dilyn y tu ôl iddyn nhw. Ymhlith yr atyniadau eraill mae cerbyd pantomeim “Snow Queen” Theatr Colwyn, cerbyd stori’r geni, cymeriadau K-Pop, Y Grinch, cerddwyr ystudfachau mewn gwisgoedd Nadolig, corachod yn jyglo, tywysogesau ac amrywiaeth o gymeriadau Nadolig, ynghyd â pherfformiadau gan grwpiau ieuenctid lleol.
Wrth i’r Orymdaith gyrraedd cornel Stryd Lloyd, bydd Cast y Pantomeim yn goleuo goleuadau Nadolig Neuadd y Dref ac yn dymuno Nadolig Llawen i’r dorf.
Bydd cyfres o berfformiadau yn dilyn cerbyd olaf yr Orymdaith:
- Perfformiad 15 munud gan Han & Fran, a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain’s Got Talent
- “Sioe K-Pop” 25 munud gan Stage Invaders
- Perfformiad 20munud gan Batala Samba Band"


