Hafan > Newyddion > Llandudno yn Cipio’r Wobr Aur
Llandudno yn Cipio’r Wobr Aur yng Nghystadleuaeth fawreddog Prydain yn ei Blodau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol 2023
Mae’n bleser gan Llandudno yn ei Blodau gyhoeddi eu bod nhw wedi llwyddo i ennill y wobr Aur yn y Categori Arfordirol yn rowndiau terfynol cystadleuaeth Prydain yn ei Blodau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol – cystadleuaeth garddio gymunedol fwyaf y DU.
Enwebwyd 44 o grwpiau garddio cymunedol, a oedd i gyd wedi gwneud argraff ar eu beirniaid lleol yn y flwyddyn flaenorol, i gynrychioli eu rhanbarth neu eu gwlad yn Rowndiau Terfynol y DU 2023. Mae Prydain yn ei Blodau’n ymwneud â dros 3,000 o grwpiau cymunedol a channoedd ar filoedd o wirfoddolwyr lleol sy’n gweithio drwy gydol y flwyddyn i gadw eu hardaloedd yn wyrdd a sicrhau eu bod yn ffynnu.
Ymhlith ei mentrau garddio niferus, cafodd Llandudno ei chydnabod am y gwaith plannu yn South Parade, Y Fach, Gerddi Haulfre ac Amgueddfa Llandudno a’r gwaith cadwraeth a gwarchodaeth ar Y Gogarth ac yn Eglwys Sant Tudno. Roedd y beirniaid hefyd yn edmygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth a balchder mewn lle’r grŵp, ei bartneriaethau eithriadol gydag ysgolion, yn enwedig Ysgol San Sior a’r nifer fawr o grwpiau Cyfeillion sydd wedi’u ffurfio ledled y dref sy’n gweithio ar brosiectau yn eu hardaloedd.
Dywedodd Maer Llandudno, Cyng. Greg J T Robbins: Hoffwn estyn diolch i bawb oedd ynghlwm â’r gwaith i sicrhau canlyniadau llwyddiannus dros ben yn rowndiau terfynol Prydain yn ei Blodau. Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r Pwyllgor Blodau a’r Amgylchedd Strydlun, yr amryw grwpiau Cyfeillion a gwirfoddolwyr unigol ynghyd â thîm Mannau Agored Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am eu gwaith diflino. Yn sgil yr ymdrech gymunedol ar y cyd hon, llwyddodd Llandudno i dderbyn Tystysgrif Aur yn y categori Arfordirol sy’n hynod gystadleuol.
Rwyf yn falch iawn o gyhoeddi bod Llandudno hefyd wedi llwyddo i ennill gwobr am y ffordd y mae’r amryw grwpiau yn annog ac yn ennyn diddordeb pobl ifanc i fod ynghlwm â’r ymdrechion. Da iawn i bawb sy’n cyfrannu at y gwaith hollbwysig hwn yn ein cymuned. Cafodd hyn ei amlygu’n benodol wrth i Ben Jones o Landudno ennill un o ddim ond dwy Wobr Hyrwyddwyr Ifanc. Llongyfarchiadau mawr iawn i’r dyn ifanc penigamp hwn o’n tref ni am ei lwyddiannau a dal ati gyda’r gwaith gwych!
Gallwch fwrw golwg ar ganlyniadau cyflawn Rowndiau Terfynol Prydain yn ei Blodau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol 2023 yma
https://www.rhs.org.uk/press/releases/RHS-reveals-2023%E2%80%99s-Britain-in-Bloom-finalists
