Hafan > Newyddion > Llandudno yn ei Blodau’n llwyddo i Ennill y Wobr Aur unwaith eto

Roedd yn bleser gan Llandudno yn ei Blodau dderbyn gwobr Aur unwaith eto mewn seremoni wobrwyo yn Ninbych ar ddydd Gwener, Medi’r 8fed 2023 am eu hymdrechion yn y gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol. Bu Llandudno yn cystadlu yn y gystadleuaeth ers 1986 gan lwyddo i gipio’r wobr aur yn 2015, 2016, 2017, 2018, 2019, 2021 a 2022. 

Bu’n flwyddyn lwyddiannus dros ben i Landudno yn ei Blodau. Yn ogystal ag ennill y Wobr Aur yng Nghategori 11 – Arfordirol (12,001 ac uwch), llwyddodd nifer helaeth o geisiadau ‘Eich Cymdogaeth’ o Landudno i ennill y wobr safon uchaf. At hyn, fe lwyddodd Joe Scarratt o Lanwydden i ennill gwobr Person Ifanc Jim Goodwin.

Dywedodd y Cyng. Louise Emery, Cadeirydd, Llandudno yn ei Blodau “Mae’r gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau’n amlygu ymrwymiad trigolion Llandudno tuag at eu parc, traeth a’u heglwys leol yn ogystal ag adeiladau cymunedol. Mae’r trigolion yn mynd ati, ar y cyd â’r Cyngor Tref a thîm Mannau Agored a Pharciau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i sicrhau bod yr adeiladau hyn yn fwy gwyrdd ac yn lanach. Mae’n bartneriaeth gynhyrchiol dros ben, ac rwy’n falch iawn o fod yn Gadeirydd Llandudno yn ei Blodau lle bu inni lwyddo i ennill y wobr aur eto eleni”.

Mae Llandudno yn ei Blodau hefyd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth derfynol Prydain yn ei Blodau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol ar gyfer 2023. Caiff canlyniadau’r gystadleuaeth honno eu cyhoeddi ar ddydd Llun, Hydref y 23ain 2023.  

Cliciwch yma i ddarllen y datganiad llawn am y Wobr Aur


Newyddion