Hafan > Newyddion > Neges Nadolig Gan Faer Llandudno

 Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda ar gyfer 2023

Adeg y Nadolig ydy fy hoff amser o’r flwyddyn, mae’n gyfnod lle mae teuluoedd a ffrindiau yn dod ynghyd, yn gyfle i weld plant yn agor anrhegion, sylwi ar yr holl oleuadau prydferth, bwyta bwyd bendigedig a rhannu.
Mae hefyd yn bwysig cofio fod adeg y Nadolig yn amser trist i bobl sydd wedi colli aelodau o’u teulu. Mae’n rhaid inni weddio eu bod yn medru dod o hyd i gysur.
Mae’r Nadolig hefyd yn adeg i gofio geni Iesu Grist ac rydym ni i gyd yn hoff o ddathlu a gwrando ar gorau.

Hefyd dewch inni gofio am y rheiny sy’n gorfod gweithio, staff ysbyty, hosbisau a chartrefi preswyl ynghyd â staff y gwasanaethau argyfwng ac aelodau’r Lluoedd Arfog. Diolch yn fawr iawn ichi am eich holl waith drwy gydol y flwyddyn.

Ar fy rhan i, y Faeres, Cynghorwyr, Staff a Miss Alice, hoffem ddymuno ichi oll

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.

Cadwch yn ddiogel, Bendith Duw arnoch chi i gyd,

Y Cyng. Carol Marubbi

Cllr Carol Marubbi

Newyddion